Goresgynnodd Cadell fab Gruffydd gastell Dinweileir, yr hwn a wnaethodd Gilbert iarll. Ychydig wedi hynny y gorfu ef a Hywel ab Owen Gaerfyrddin drwy gadarn ymryson, wedi lladd llawer o'u gelynion a brathu ereill.
Ychydig o ddyddiau wedi hynny y daeth yn ddisyfyd ddirfawr lu o'r Ffreinc a'r Fflemisiaid i ymladd â'r castell, ac yn dywysogion yn eu blaen feibion Gerald Ystiward a Gwilym ab Aedd. A phan welas Meredydd ab Gruffydd, y gwr y gorchmynasid iddo gadwraeth y castell a'i amddiffyn, ei elynion yn dyfod mor ddisyfyd a hynny, gyrru calon yn y gwyr a orug, a'u hannog i ymladd, a bod yn drech gantaw ei fryd na'i oed. Canys, cyn bei bychan ei oed, eisoes yr oedd gantaw weithred marchog, ac yn anghrynedig dywysog yn annog ei wyr i ymladd, ac yn cyrchu ei hun ei elynion yn arfau. A phan welas ei elynion fychaned oedd y nifer yn amddiffyn o fewn y castell, dyrchafel ysgolion wrth y muroedd a wnaethant. Ac yntau a oddefodd i'w elynion i esgyn tua'r bylchau. Ac yn ddilesg ef a'i wyr a ymchwelasant yr ysgolion, oni syrthiodd y gelynion yn y clawdd, gan yrru ffo