Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y rhai ereill, a gado lliaws onaddynt yn feirw, yr hyn a ddanghoses iddo y ddedwydd dynghedfen rhag llaw, ar gaffael dawn ohono ar wladychu yn y Deheu. Canys gorfu, ac ef yn fab, ar lawer o wyr profedig yn ymladdau; ac yntau ag ychydig o nerth gydag ef.

Yn niwedd y flwyddyn y bu farw Rhun fab Owen, yn was ieuanc clodforusaf o genedl y Brytaniaid, yr hwn gawsai fonedd ei rieni yn ardderchog. Canys teg oedd o ffurf a drych, a hynaws o ymadroddion; a huawdr wrth bawb, rhag welawdwr yn rhoddion; ufudd ymhlith ei dylwyth, balch ymhlith ei estronion; a therwyn garw wrth ei elynion, digrif wrth ei gyfeillion; hir ei dyad, gwyn ei liw, pengrych, melyn ei wallt; goleision ei lygaid, llydain a llawen; mwnwgl hir praff, dwy fron lydan, ystlys hir; morwydydd preiffion, esgeiriau hirion, ac o du ucha ei draed yn feinion; traed birion a bysedd meinionoedd iddo. A phan ddaeth y chwedl am ei irad angeu ef at ei dad Owen, ef a gododd ac a dristhaodd yn gymaint ag na allai dim ei hyfrydhau ef, na thegwch teyrnas na digrifwch, na chlaear ddiddanwch gwyrda nac edrychedigaeth mawr-werthogion bethau.