Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.
Meibion y Dewrion.

[1. Meibion Gruffydd ab Rhys,—ysigo Cadell, marw Meredydd, gallu yr Arglwydd Rhys. 2. Meibion Owen Gwynedd, medr milwrol Hywel, terfysg Cynan. 3. Madog ab Meredydd o Bowys. 4. Yr ymladd rhwng Owen Gwynedd a Harri'r Ail]

1146. Daeth Lowys frenin Ffreinc, ac amherawdwr yr Almaen gydag ef, a dirfawr luosogrwydd o ieirll a barwniaid a thywysogion gydag hwynt, a chroes i Gaerusalem.

Cyffroes Cadell ab Gruffydd, a'i frodyr Meredydd a Rhys, a Gwilym ab Gerallt a'i frodyr gydag hwynt, lu am ben castell Gwys. Ac wedi anobeithio onaddunt yn eu nerthoedd eu hunain, galw Hywel ab Owen a orugant yn borth iddynt, Canys gobeithio yr oeddynt, o'i ddewrlow luosogrwydd ef, parotaf ei ymladdau a'u doethaf gyngor, gaffel onaddynt y fuddugoliaeth. A Hywel, megis yr oedd chwannog yn wastad i glod a gogoniant, a beris cynnull llu gloewaf a pharotaf yn anrhydedd eu harglwydd; cymryd hynt a orug tua'r dy-