Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wededig gastell. Ac wedi ei arfoll yn anrhydeddus o'r dywededigion farwniaid yno, pabellu a wnaeth. A holl negesau y rhyfel a wneid o'i gyngor ef a'i ddychymyg. Ac felly yr oedd pawb ar a oedd yno i oruchel ogoniant a buddugoliaeth drwy orfod ar y castell o'i gyngor ef, gan ddirfawr ymryson ac ymladd. Ac oddyno yr ymchwelodd Hywel yn fuddugol drachefn.

Ni bu bell gwedi hynny oni fu terfysg rhwng Hywel a Chynan feibion Owen a Chadwaladr. Ac oddyna y daeth Hywel o'r naill tu, a Chynan o'r tu arall, hyd ym Meirionnydd; a'u galw a wnaethant i law gwyr y wlad a giliasant i noddfâu eglwysau, gan gadw ag hwynt y noddfâu ac anrhydedd yr eglwys. Ac oddyna cyweirio eu byddin a wnaethant tua Chynfael, castell Cadwaladr, yr hwn a wnaethoedd Cadwaladr cyn no hynny, yn y lle yr oedd Morfran abad y Ty Gwyn yn ystiwart, yr hwn a wrthodes roddi y wrogaeth iddynt, cyd ys profid weithiau drwy arwyddion fygythiau, gweithiau ereill drwy aneirif anrhegion a rhoddion a gynhygid iddo. Canys gwell oedd ganddo farw yn addfwyn na dwyn ei fuchedd yn dwyllodrus. A

phan weles Hywel a Chynan hynny, dwyn