cyrch cynhyrfus i'r castell a wnaethant, ac ennill a orugant y drais. Ac o fraidd y diengis ceidwaid y castell drwy nerth eu cyfeillion, wedi lladd rhai o'u cydymdeithion a brathu ereill.
Bu farw Robert iarll, fab Harri, gŵr a gynhalasai ryfel yn erbyn Ystefyn frenin. ddeuddeng mlynedd cyn na hynny.
1147. Bu farw Uchtrud esgob Llandaf, gŵr mawr ei foliant ac amddiffynnwr yr eglwysau, gwrthwynebwr ei elynion, yn ei berffaith henaint. Ac yn ei ol ynteu y bu esgob Nicol fab Gwrgant. Bu farw Bernard esgob Mynyw, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg ar hugain o'i esgobawd, gŵr rhyfedd ei foliant a'i ddwyfolder a'i sancteiddrwydd oedd, wedi dirfawrion lafuriau ar dir a môr; wrth beri i eglwys Fynyw ei hen ryddid. Ac yn ei ol yntau dynesodd yn esgob Dafydd fab Geralt archddiagon Ceredigion. Bu farw Robert esgob Henffordd gwr oedd, herwydd ein barnwriaeth ni, grefyddus a chyflawn o weithredoedd cardodau a hygar borthwr y tlodion, ac arbennig degwch yr eglwysau, yn gyflawn o ddyddiau da, hyd na lygrid. cader yr faint brelad hwnnw o anheilwng
orlyniawdur. Yna yr urddwyd Gilbert,