abad Caerloew, yn esgob Henffordd. Bu fawr farwolaeth yn ynys Prydain.
1148. Adeilodd Owen fab Gruffydd ab Cynan gastell yn Ial. Adeilodd Cadwaladr fab Gruffydd gastell Llanrhystud o gwbl, ac a roddes ei ran ef o Geredigion i Gadwgan ei fab. Ynghylch diwedd y flwyddyn honno adeiladd Madog fab Meredydd gastell Croesyswallt, a rhoddes Gyfeiliog Owen a Meurig feibion Gruffydd ab Meredydd, ei neiaint.
1149. Adgyweiriodd Cadell ab Gruffydd gastell Caerfyrddin er tegwch a chadernid ei deyrnas, a diffeithiodd Gydweli. Carcharodd Owen, frenin Gwynedd, Gynan ei fab. Delis Hywel fab Owen Gadfan fab Cadwaladr ei gefnder, ac achubodd y tir a'i gastell. Ni bu bell wedi hynny oni ddoeth meibion Gruffydd fab Rhys, Cadell a Meredydd a Rhys,—a llu ganddynt i Geredigion, a'i goresgyn hyd yn Aeron. Darparodd Madog, fab Meredydd frenin Powys drwy nerth Randwl iarll Caerlleon, cyfodi yn erbyn Owen Gwynedd. Ac wedi lladd pobl ei gynhorthwywyr ef, ymchwelodd y rhai ereill eu cefnau i ffoi.
1150. Dug Cadell a Meredydd a Rhys, feibion Gruffydd ab Rhys, Geredigion oll