Bu farw Griffri ab Gwynn.
1154. Bu farw Meredydd ab Gruffydd ab Rhys brenin Ceredigion ac Ystrad Tywi a Dyfed, yn y bumed flwyddyn ar hugain o'i oed, gŵr a oedd ddirfawr ei drugaredd wrth dlodion, ac ardderddog ei gadernid wrth ei elynion, a chyfoethog ei gyfiawnder.
Bu farw Geffrei, esgob Llandaf, ar offeren; a iarll Henffordd.
1155. Pan gigleu Rhys fab Gruffydd fod Owen Gwynedd ei ewythr yn dyfod a llu ganddo i Geredigion, yn ddilesg y cynhullodd yntau lu a daeth hyd yn Aber Dyfi; ac yno y gorffwysodd ar fedr ymladd a rhoddi brwydr i Owen Gwynedd a'i lu. Ac ni bu bell wedi hynny pan wnaeth yno gastell.
Gwnaeth Madog fab Meredydd, arglwydd Powys, gastell yng Nghaereinion yn ymyl Cymer. Diengis Meirig fab Gruffydd, nai i'r dywededig Fadog, o'i garchar. Ni bu bell wedi hynny oni chysegrwyd eglwys Fair ym Meifod.
Bu farw Terdeilach frenin Conach.
1156. Dug Henri fab yr amherodres, ŵyr oedd hwnnw i Henri fab Gwilym Bastard, lu hyd yn maesdir Gaerlleon ar fedr