Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lladd Henri fab Henri frenin a chan mwyaf holl benaduriaid y llongwyr.

A gwedi darfod hynny, heddychodd y brenin ac Owen, a chafas Cadwaladr ei gyfoeth drachefn. Yna ymchwelodd y brenin i Loegr. Ac yna ymchwelodd Iorwerth Goch fab Meredydd i gastell Ial a llosges ef.

Llas Morgan ab Owen drwy dwyll gan wyr Ifor fab Meurig, a chydag ef y llas y prydydd goreu, a hwnnw a elwid Gwrgan fab Rhys. Ac yna gwladychodd Iorwerth fab Owen, frawd Morgan, dir Caerlleon at holl gyfoeth Owen.

A gwedi gwneuthur heddwch o holl dywysogion Cymru a'r brenin, Rhys fab Gruffydd ei hunan a ddarparodd gwneuthur rhyfel ag ef. A dyuno a wnaeth holl Ddeheubarth, a'i holl anwyliaid, a'u holl dda ganddynt, hyd yng nghoedydd Ystrad Tywi. A phan gigleu y brenin hynny, anfon cenhadau a wnaeth at Rys, i fynegi iddo fod yn gryno iddo fyned i lys y brenin yn gynt nag y dygai Loeger a Chymru a Ffrainc am ei ben, ac nad oedd neb eithr ef ei hunan yn ymerbyniad â'r brenin. Ac wedi myned yn ei gyngor ef a'i wyrda ef a aeth i lys y