gynnodd y castell. Yna y cyrchodd Einon fab Anarawd brawd yr arglwydd Rhys, ieuanc o oed a gwrol o nerth, ac achos gweled obono bod Rhys ei ewythr y rhydd o'r amod ac o bob llw a roddasai y brenin, ac o achos ei fod yntau yn dolurio cyfarsangedigaeth ei briod genedl gan dwyll y gelynion, yna y cyrchodd am ben castell Hwmphre, a lladdodd y marchogion dewraf a cheidwaid y castell o gwbl, a dug holl anrhaith y castell a'i holl ysbail oll ganddo. Ac yna, pan welas Rys fab Gruffydd na allai ef gadw dim gantaw or a roddasai y brenin iddo namyn yr hyn enillai o'i arfau, cyrchu a wnaeth am ben y cestyll a ddarostyngasai y ieirll a'r barwniaid yng Ngheredigion, a'u llosgi. Ac wedi clybod o'r brenin hynny, cyrchu Deheubarth a wnaeth, a llu ganto. Ac wedi mynych wrthwynebu o Rys a'i wyr iddo, ymchwelyd a wnaeth i Loegr. Ac oddyno yr aeth drwy y môr.
1158. Darostynges yr arglwydd Rys fab Gruffydd y cestyll a wnaethoedd y Ffreinc ar draws Dyfed, ac eu llosges, Yng nghyfrwng hynny yr arweddodd ei lu i Gaerfyrddin, i ymladd ag ef. Ac yna y doeth Rheinallt fab Henri frenin yn ei