thur ar y tir, ac oddyno yr oeddynt yn gwneuthur camau yn erbyn y brenin, act yn dyfod at Fadog. Ac yna yr anfones. Ricert ystiward at Fadog i erchi dal y gwyr a wnaethent y cam yn erbyn y brenin ac yntau a wrthwynebodd i hynny, ac nis daliodd. Ac yn gamweddog, heb wybod beth a wnai namyn ceisio cyfeillach gau Owen fab Cadwgan, hynny a gafas: a gwneuthur heddwch rhwng y rhai a oeddynt yn elynion cyn na hynny; ac ymarfolli uwch ben creiriau a wnaethant, hyd na heddychai un â'r brenin heb eu gilydd, ac na fradychai un onaddynt eu gilydd. Ac yna y cerddynt ynghyd pa le bynnag y dygai eu tynghedfen hwynt; a llosgi tref neb un gwrda a wnaethant; a pha beth bynnag a ellynt ei ddwyn ganddynt, nac yn feirch nac yn wisgoedd, hwynt a'u dygasant, na neb rhyw ddim arall ar a geffynt.
1107. Coffhaodd Harri frenin garchar Iorwerth fab Bleddyn, ac anfon cennad ato i wybod beth a roddai er ei ollwng o'i garchar; canys blin yw bod yn hir garchar. Ac yntau a addewis fwy nag a allai ddyfod. iddo, a dywedyd y rhoddai bob dim ar a archai y brenin. Ac yn gyntaf yntau a erchis wystion o feibion goreugwyr ei