hau dyfodiad ei dad cyn na hynny i'r cyfoeth; canys ei gydymeith oeddynt yn Nyfed i ysbeilio y wlad ac i ddal y dynion a’u dwyn yn rhwym hyd y llongau a ddaeth gan Owen o Iwerddon. Ac yna yr oeddynt yn trigo yn nherfynau y wlad. Ac eilwaith yr aethant i alw ynfydion a chwanegu eu rhif, a chyrchu dros nos y a'i llosgi, a lladd pawb ar a gawsant ynddi, ac ysbeilio ereill, a dwyn ereill ganddynt yngharchar, a'u gwerthu i'w dynion neu eu hanfon yn rhwym i'r llongau. Ac wedi llosgi y tai a lladd cymaint ag a gawsant o’r anifeiliaid, a chymaint ag a gawsant a ddygant ganddynt, ymchwelasant ffordd i Geredigion, wrth letya a thrigo a myned a dyfod, heb edrych dim o achosion Cadwgan nac o wahardd y brenin. A rhai onaddynt, dreiglgwaith, a oeddynt yn cadw ffordd yr oedd hynafgwr o’r Fflemisiaid yn dyfod iddi, a elwid Wiliam o Frabant, a'i gyferbynnyd a wnaethant, a'i ladd. Ac yna myned o Gadwgan gyda Iorwerth i lys y brenin, i fynnu cael ymddiddan ag ef. Ac fel y buant yna, nachaf frawd i'r gwr a laddesid yn y lle, yn mynegi i’r brenin ladd o Owen a'i gymdeithion ei frawd. Pan gigleu y brenin hynny, gofyn a orug i Gadwgan,—"Beth a ddy-
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/72
Gwedd