Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Byddai llên Ffrainc yn llawer tlotach pe tynnid ohoni athrylith Llydaw. Gŵr o Lydaw oedd Emile Souvestre, awdur stori'r Bugail Geifr. Ganwyd ef ym Morlaix, yn y flwyddyn 1806, a bu farw yng nghanol ei ddyddiau yn 1854. Llenyddiaeth a aeth â'i fryd o'i febyd, er iddo yn gynnar orfod troi allan i ennill ei damaid am fod ei rieni'n dlodion. Bu'n gweithio gyda llyfrwerthwr am ysbaid, ac wedi hynny bu'n athro ac yn newyddiadurwr.

Dechreuodd fel llenor gyda disgrifiadau rhamantus o fro ei enedigaeth, Llydaw, ei llynnau a'i hafonydd, ei chlogwyni a'i grug a'i heithin, ei gweddillion derwyddol a llên ei gwerin. Yn ddeg ar hugain oed aeth i Baris i fyw ac i ymroi'n llwyr i lenyddiaeth. Ei waith mwyaf adnabyddus, feallai, ydyw Un Philosophe sous les Toits (Athronydd y Nennawr). Enillodd y gyfrol hon iddo goron Academi Ffrainc. Teitl cyflawn y gyfrol yw "Athronydd y Nennawr, dyddiadur dyn dedwydd." Ynddi, mewn arddull swynol tros ben, disgrifia fywyd prifddinas Ffrainc. Gwaith arall enwog ac adnabyddus yw ei "Les Derniers Bretons." Ysgrifennodd hefyd doreth o bethau eraill, yn enwedig llên i'r ieuanc.

Yn ystori "Bugail Geifr Lorraine" nid yw'r awdur yn adrodd hanes dal Jeanne D'arc yn hollol gywir. Prin yr oedd yn Ffrainc, y mae'n wir, yr adeg honno, adyn mwy anfad na Guillaume de Flavi, llywodraethwr Compiêgne, ond ni wyddys am ddim mewn ysgrifen o'r cyfnod hwnnw i brofi bod ganddo law ym mradychu'r llances wlatgar hon. Ond gwyddai Souvestre, y mae'n amlwg, am y traddodiad ymhlith y werin fod a fynnai Flavi â'r ysgelerwaith, a gwyddai hefyd fod cnewyllyn o wir mewn hen draddodiad yn ei gadw yn fyw