Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Duw a'ch halodd chi'ch dou ma heno. Arhoswch hyd y diwedd. Ma ise cwmni ar Gwen fach." Yna edrychodd yn dyner ar Gwen,—

"Chei di mo'r gwaetha, merch i. Ma Duw wedi addo gofalu am danat ti. Thorr E mo'i air."

Bu distawrwydd drachefn am bum munud hir, ddwys. Troediai'r claf ar hyd glyn cysgod angau ei hun, a'r rhai a'i gwyliai heb fedru dod ond i lan y dwr. Gan afael o hyd yn ei law, adroddodd y gweinidog yn ddistaw eiriau'r hen emyn,

Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.

Yn swn y geiriau cysurlawn croesodd Dafydd Alun yn ddiogel i'r lan draw.

Daeth cyffro mawr yn lle'r tawelwch i'r ystafell fach. Llefodd Manw'n uchel, a llewygodd Gwen. Tra y ceisiai Anna Ifans yn anfedrus ei dadebru, cymerodd Owen Elis hi yn ei freichiau, a chariodd hi i lawr dros y grisiau i fan lle ceid mwy o awyr; gosododd hi ar wastad ei chefn ar y lawr, tafledd ddwfr oer ar ei hwyneb nes iddi agor ei llygaid a syllu arno. Yna, pan ddaeth cymdogion o un i un at y tŷ, wedi clywed y newydd drwy ryw fodd, aeth y gweinidog oddiyno a'i gamre'n gloff iawn a'i galon drymed ag eiddo Gwen.

Y noson honno ym Maesyryn, ni flinai Anna Ifans adrodd ac ail-adrodd yr hyn a welsai. Yr oedd mwy nag un mater heb fod yn eglur iddi. Sut oedd Dafydd Alun,—hen wr gyfrifasai hi erioed yn oer a stoicaidd a digrefydd, heb feddwl fawr am gapel nac eglwys, yn marw felly ac adnodau ar ei wefus? A beth oedd y dirgelwch rhwng Gwen a'r Bugail? Mor awdurdodol a digywilydd y cymerasai hi'n ei freichiau! Efallai nad oedd hynny'n beth newydd iddo! Dyna'r gwaethaf o gael dyn ifanc yn weinidog. Ac yr oedd yr hen Ddafydd Alun wedi cystal a gofyn iddo ofalu am dani.

Aethai Ann i lawr ar unwaith i Isaber at Gwen.

Gwrandawai'r lleill yn awchus ar yr hanes cyffrous. Fflachiai llygaid Leisa'n beryglus, ac yfai John a Fred eu cawl llaeth yn egniol pan ddywedai Anna Ifans na synnai hi ddim pe clywid fod Gwen a'r gweinidog wedi priodi cyn i'r hen wr oeri'n ei fedd.