Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clywid rhybuddio ei hangladd heddyw. Yr oedd pethau bellach yn ddiau yn cyfeirio fel y dylent. Unwaith y caeai hi ei llygaid gallai ef glecian ei fysedd ar bawb. Ni ddylasai fod wedi ameu'r hen wraig, ond paham y daethai'n ol i'r ardal i beri cymaint o anesmwythyd iddo? Wel, rhaid mentro rhyw gymaint yn y byd hwn. "Never venture, never win," meddai'r Sais. Yr oedd yn dda ganddo erbyn hyn ei fod wedi mentro. Daethai'r fenter a llu o fendithion iddo eisoes. Hyd yn oed pe dywedai'r hen Rachel rywbeth yn awr, yr oedd y peth mor bell yn ol, a phwy roisai ronyn o sylw i eiriau gwyllt hen wraig a cholled arni. Y tato a'r ymenyn a'r cywion roisid i'r Bugail a fuasai'r unig golled ynglŷn â'r peth wedi'r cyfan. Bu bron a chwerthin yn uchel yno yn yr angladd wrth gofio am ei gallineb yn trefnu go-gyfer a'r gwaethaf, a ffolineb ei ofnau disail. A dacw Owen Elis yn camu'n gloff o'i flaen heb freuddwydio gymaint o'i dynged oedd yn ei law ef—Bwen, Y Mwyndir! "Machgen mowr i," ebe ef yn ei feddwl wrth y Bugail, "wit ti wedi cal dy giw ola o'r Mwyndir, a gna di'n fowr o'r llwith tato gest ti stwetha, weli di'm în arall!" Lle digrif a diddorol oedd y byd wedi'r cyfan. Teimlai Tomos Bŵen hynny i'r eithaf wrth drwm gerdded gyda'r dorf.

Wedi'r gwasanaeth yn y capel ac yn y fynwent, cerddai Gwen a'i mam a Manw yn alarus oddiwrth y bedd. Daeth y gweinidog tuag atynt yn hanner ofnus i ysgwyd llaw â hwy. Tynerodd ei lygaid a chyffrôdd ei wedd wrth edrych ar Gwen yn ei du a'i dagrau. Paham na chai ei chymeryd yn ei freichiau a'i gwasgu at ei galon fel y gwnaethai'r noson honno yn y tŷ? Waeth beth geisiai feddwl am hynny, yr oedd ei deimlad tuag ati bron mynd yn drech nag ef, a gorfu iddo droi ymaith yn frysiog, nes gwneud i galon Gwen grynu, ac i'w mam synnu mor fyrr yr oedd yn ei ymddiddan ac mor anfedrus oedd fel gweinidog yn ei ymdrechion i gysuro pobl.

"Annar minid, Syr, os gwelwch chi'n ddê," ebe rhyw lais tu ol i Owen Elis pan gerddai'n frysiog tua'i gartref. Arhosodd y gweinidog, a gwelodd wr bychan dieithr yn ei ymyl, yn dal ei het yn ei law, ac yn sychu'r chwys oddiar ei dalcen.

"O'n i weti meddwl e'ch dala chi cin i chi ddod o'r englodd," ehe ef. "Ma ngwraig i bron marw. Ma'r