doctor yn gwêd taw ffili marw ma'i o achos rwpath. Mi ofynnws y bora ma am gal e'ch gweld chi, Syr. Din a wir pam gofynnws i am denoch chi. Ma rwi gollad bach arni slwar didd, ond odd i'n dishgwl yn i senses y bora ma, a odd raid i fi ddod i whilo am denoch chi. Ddewch chi, Syr?"
Dylifodd y dyn bychan ei eiriau allan bron heb anadl. Wedi cael ychydig fanylion pellach, trodd y gweinidog yn ol gydag ef yn ddibetrus. Yr oedd ganddynt lawn tair milltir a'u blaen cyn cyrraedd ardal Glynygroes, ac er iddynt gyfarfod ag amryw o bobl yr angladd wrth fynd yn ol heibio'r capel, nid amser oedd hwnnw i aros ac esbonio.
XXIII.
Hallt yw'r môr i'r sawl a'i profo.
Cas yw'r byd i'r neb a'i caro.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.
ARWEINIODD Jincins y gweinidog i fwthyn bach tô gwellt ar gwrr pellaf pentref Glynygroes. I ddychymyg byw Owen Elis yr oedd gwedd allanol y bwthyn fel wyneb cyfaill yn sefyll i fyny i'w rybuddio o ryw brudd-der llethol tu mewn. Tremiai'r ddwy ffenestr fechan arno fel dau lygad syn, a phlygu eu pennau'n drist wnai'r ychydig flodau gerllaw. Dwy ystafell oedd i'r bwthyn, ac yr oeddent yn lân iawn ac wedi eu dodrefnu'n ddigon gweddus heb ol tlodi ar ddim. Ar wely uchel yn y penucha' gorweddai hen wraig, ei hwyneb rhychiog bron mor welw a'r gobennydd—ei llygaid yn wyllt, a'i dwylaw hen yn symud yn aflonydd ar y dillad glân. Safai un o wragedd y pentref gerllaw i weini arni.
"Rachal, dyma'r gweinidog wedi dod, Rachel fach," ebe'r dyn bach.
Tynnodd yr hen wraig ochenaid ddofn, llonyddodd ei dwylaw a'i llygaid, edrychodd yn syn ar y gweinidog, gafael-