Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Catrin Elis, yn awr o Foelygaer, Swydd X——, am iddi unwaith beryglu ei bywyd er ceisio achub fy merch.

Arwyddwyd gennyf fi, JOHN BOWEN.
Dyddiad: Tachwedd 3ydd, 18——

Arwyddwyd gennym ni, ym mhresenoldeb
John Bowen, ac ym mhresenoldeb ein gilydd,
——SIMON PHYLIP.
——ESEC LEWIS.

Cododd Owen Elis o'r gadair yn sydyn. Cerddodd yn wyllt-gloff ar draws ac ar hyd yr ystafell fechan gyfyng, a'r papyr melynwawr yn ei law. Ugain mlynedd yn ol! Y Mwyndir a'r meddiannau yn eiddo i'w fam er yr amser hwnnw, pan nad oedd ef ond pedair oed! A'i rieni druain wedi gorfod brwydro cymaint ag amgylchiadau bywyd ac wedi mynd i'w bedd, feallai yn anamserol, pan allent fod wedi byw'n gysurus uwchlaw pryderon!

Daeth gwaedd o'r gwely i dorri ar lif ei feddyliau,

"O! arhoswch, Syr! Dewch nol fan hin. Isteddwch i fi gal gweid yr hanes—i fi gal ciffesi. Does gen i'm amser i golli! Fidda i wedi mind toc o flân y Marnwr. Codwch y pilw dipin, ie, fel na, a grondwch yn ofalus. Alla i'm siarad yn uchel."

"Igen mline! ond wi'n cofio o hid. Wedd yr hen Sion ar farw, wedd e wedi bod fel marw bron trw'r di. We Tomos ac Ester ar lan yn y rwm da ge yn i ddisgwl e i dinni'r anal ola. Ddoith Tomos lawr ata i i'r gegin, lle'r own i'n dirwn dafe. Beiti naw o'r gloch y nos wedd i."

"Rachel," minte fe, "dyma sofren felen. Dyma hi i ti os gwedi di wrthw i ble ma gwillis yr hen wr."

Atebes i'm gaer am spel. "Wit ti am y bint?" minte fe lweth.

Chidig own i'n ennill. Twm Bwen we inig berthinas biw'r hen wr "Wedd pint yn bint i fi, Syr. Pwi ddrwg fidde mewn gweid? Mi wedes. Fe ath inte a channwll yn i law i ddrichid am deni.

Ddoith nol ymhen spel heb y gannwll. "Dere ma, Rachel," minte fe. Fe gaeodd ddrws y penisha arnom ni. "O Syr, shwt gweda i? Estinnwch y glas a'r dwr na i