Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIV.

Ac anniddig iawn oeddwn,—gwyddwn ing
Gweddi nos ar wndwn;
Enaid yn byw o dan bwn a dolur,
Arial o gysur awel a geisiwn.

—T. H. PARRY WILLIAMS.

FEL un mewn breuddwyd y cerddodd Bugail y Bryn o bentref Glynygroes tua'i gartref. Gan mor llawn o'i feddyliau ei hun yr oedd, ni welodd Bwen, Y Mwyndir, a. golwg ddychrynedig yn ei lygaid yn troi i efail Simon y gof yng ngwaelod y pentref.

Nid hon oedd yr efail agosaf i'r Mwyndir, ac anaml yr ai Tomos Bwen yno; ond wedi meddwl ychydig, llwyddodd i gael neges cyfaddas. Yr oedd arno awydd bod rywle ym mhentref Glynygroes y prynhawn hwnnw, fel ag i glywed yn gynnar y newydd a ddisgwyliai, a gwyddai pawb nad oedd gof Cwmgwynli yn agos cystal a gof Glynygroes am wneud swch a chwlltwr.

Wedi cyfarch y gof a chael rhywbeth cyfaddas i eistedd arno yn aflerwch yr efail, gofynnodd mor ddidaro ag y medrai,—

"Ble mai e'r boi cloff wedi bod heddi, te?"

Rhoddodd y gof drem tua'r heol a gwelodd Owen Elis ar fynd o'r golwg yn y tro; cydiodd mewn darn o haearn, dododd ef yn y tân, chwythodd yn egniol a'r fegin a phoerodd yn chwim i'r lludw poeth cyn ateb.

"Nawr mai e'n mind nol! Ma hen wraig ar lan fan na'n wael iawn,—Rachel, gwraig John Shincin. Beth, i chi'n i nhabod i, morwm y Mwyndir gint. Wedd i'n galw'n rhifedd am weld Elis. Ath lan da Shincin o'r angla ginne, a nawr mai e'n mind nol. Mai e na es awr a hanner dda." Sychodd Tomos Bwen y chwys oddiar ei dalcen, gan ddywedyd wrth y gof ei bod yn glos iawn i gerdded er fod y gaeaf yn ymyl.

"Ble bioch chi, te? Nid nawr i chi'n dod o'r angla?"