Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofynnai Miss Elis o'r drws, tra'n gwylio'r gweinidog yn dynesu at y tŷ, a mwy nag arfer o nodau cur a blinder ar ei wedd.

Fe halwd yn hol i i Glynygroes at hen wraig oedd ar fin marw."

"Glynygroes! Owen bach, pam na ddoithech chi nol, gal tipyn o ginno yng nghinta? Rhaid i chi feddwl rhwbeth am e'ch hinan."

"Gymera i gwpaned o dê nawr, os yw e'n barod," ebe yntau'n flin, gan eistedd ar ei gadair, a syllu'n drist i'r tân cwlwm siriol.

Yn fuan wedi tê, dywedodd wrth ei fodryb ei fod yn mynd allan drachefn, ac os byddai'n hwyr arno'n dychwelyd, am iddi beidio aros ar lawr i'w ddisgwyl.

"Owen bach! A chithe wedi blino cimint," protestiai Miss Elis.

"Rw i wedi dadflino nawr. Ma raid i fi fynd. Cerwch chi i'r gwely, modryb," ebe ef, a chyda'r eglurhad hanerog hwnnw, aeth Owen Elis i geisio'i het a'i got fawr.

Yr oedd Miss Elis yn hen gyfarwydd â byw ar hanner- esboniadau felly ar ran ei nai. Buasai'n well ganddi gadw tŷ i rywun a fedrai ddeall yn drwyadl,—rhywun mwy tebig i bob dyn arall. Ond er yn byw dan yr un to, yr oedd Owen Elis mor bell oddiwrthi a phe bai yn byw ar gyfandir arall, ac ers llawer dydd, rhoisai Miss Elis i fyny bob gobaith am fynd yn agos ato. Ocheneidiodd a throdd at ei gwaith.

Ocheneidiodd Owen Elis hefyd. Oni hoffai yntau ar lawer adeg, Duw a wyr, fod yn debycach i bob dyn arall; medru ymgomio'n rhydd ac agored am ei lawenydd a'i wae, yn lle bod fel meudwy ar ynys, mor ofnadwy bell oddiwrth bawb a'r eigion yn berwi o'i gylch! Eithr heb fedru dewis, oni raid i bob dyn ddygymod a'i bersonoliaeth ei hun er gwell neu er gwaeth am byth?

Wedi datguddiadau'r dydd, teimlai'r dyn ieuanc awydd anorchfygol i fynd hyd at Y Mwyndir; eistedd ar ryw gamfa heb fod yn rhy agos i'r tŷ, a'r nos garedig yn ei gysgodi, ac yno wrtho'i hun, ceisio meddwl yn glir am bethau.

Cerddodd yn gyflym drwy'r tywyllwch. Er nad oedd ond prin wyth o'r gloch nid oedd nemawr o bobl ar hyd y ffyrdd. Aeth heibio'r fynwent, lle'r oeddis newydd osod Dafydd