Alun i orwedd; croesodd gloddiau a daeth allan o fewn lled cae i'r Mwyndir, ar lethr y tu ol i'r tŷ. Gorweddai twrr o loi'r Gwanwyn yn un cornel i'r cae. Camodd yn ysgafn rhag eu dychrynu. Ger y cornel arall, safai hen glwyd segur ar ymyl y clawdd. Eisteddodd ar honno.
Arhosodd yn llonydd er mwyn i dangnefedd y nos dreiddio i'w enaid. Cyn hir cliriodd ei feddwl.
Eiddo ef yr erwau bras o'i gylch, eiddo ef y ffermdai clyd yng nghysgod y coed, eiddo ef y coed eu hunain! Caeodd ei law'n dyn am y papyr melynwawr yn ei boced. A ai yn awr i lawr hyd y tŷ ac i mewn drwy'r drws i ddal y gorffennol o flaen llygaid Tomos Bwen? Pa ryw wyneb fedrai hwnnw ddangos wedi'r dadleniad? Ond yr oedd yn rhy gynnar eto.
A dyma'r lle bu ei fam yn llafurio'n galed am flynyddau maith. Cododd a thremiodd yn wyliadwrus drwy'r bwlch er mwyn cael llawn olwg ar y clôs, a thai'r anifeiliaid. Dychmygai weld ei fam yn awr yn symud hyd y fan,—ei chefn wedi crymu dan bwys llafur oes, a'i llygaid mor llawn o fwyneidd-dra dirwgnach. Gweithio, gweithio fu ei rhan. hi hyd y diwedd, gweithio er ei fwyn ef, ac O! gweithio pan ddylasai ei byd fod yn gysurus a'i dyfodol yn ddibryder. Eisteddodd Owen Elis drachefn ar yr hen glwyd, pwysodd ei ben ar ei ddwylaw, cynhyrfwyd ei enaid.
Daeth i'w gof ymddygiad Tomos Bwen tuag ato drwy gydol y flwyddyn. Cofiodd am y modd dibris y derbyniasai ei gyfeiriad ef at aberth ei fam. Cofiodd mor reddfol anghysurus y teimlasai ef yn wyneb caredigrwydd nodedig Y Mwyndir yn ddiweddar. A beth oedd y rheswm am y caredigrwydd hwn? Hir y bu Owen Elis cyn canfod y cysylltiad, oherwydd anghyfarwydd a diddarfelydd oedd efe yng nghynlluniau cyfrwys plant y byd. O'r diwedd, tywynnodd goleuni arno. Deallodd genhadaeth yr ymenyn, y cywion ieir, a'r llwythi tato, ac O! syndod, gwelodd ystyr danfoniad Marged Elen mor aml. Ceisio unioni'r cam felly! Er mwyn osgoi dial, ei wneud yn un o'r teulu! Ceisio newid cwrs ei fywyd ef i wasanaethu eu dybenion isel eu hunain!
Mor dda ganddo na syrthiasai i'r rhwyd a osodasid iddo. Ni feddyliasai erioed am Marged Elen ond fel plentyn. Yr oedd mor bell o'i feddwl ef a phe bai yn naw oed yn lle yn