ddeunaw. Marged Elen! Nid oedd un ferch yn bod' iddo ef ond Gwen. Ai heddyw yr ysgydwasai law a Gwen, yno yn ei dillad duon a'r dagrau ar ei grudd? Beth pe gwybu- asai Gwen am ei deimlad cynnes tuag ati, am y frwydr bar- haus yn ei fron! Eithr ni roed iddo ef y mwyniant o gael dywedyd ei gariad wrthi a gwylio ddeffro o Serch yn ei chalon hithau. Anhebig i ddynion ereill oedd efe yn hyn eto, a pha bryd y sylweddolai hynny ac yr ymlonyddai ei enaid? Pa bryd y medrai roi ei hun yn gyfangwbl i'r llawenydd uwch, yn lle siglo o'r naill i'r llall a cholli'r ddau?
Beth oedd da'r byd hwn iddo ef? Pa les iddo ef fyddai meddiant o'r Mwyndir a'r meddiannau? Yr oedd ganddo'n awr ddigon at ei raid. Nid oedd ganddo neb i ddod ar ei ol. Ni fyddai yn amddifadu neb o'r hyn oedd eiddo iddynt. A oedd yn werth iddo ef,—a fuasai'n deilwng o'i urddas i ymgecru ag ereill am elw bydol, i ymgiprys am bethau nad oedd ar y goreu ond pethau dros amser? Yr oedd ganddo hawl iddynt, oedd. Ond a oedd yn werth iddo ef drwy chwys a lludded fynnu dangos ei hawl at beth oedd wedi'r cyfan mor gymharol ddibwys? Gwnaed cam a'i dad a'i fam. Do, ond dianghasent hwy, a gwell goddef cam na'i wneuthur. Gwnaed cam ag yntau. A gai hynny derfysgu ei enaid yn awr?
Tybed nad bwriad Duw oedd cadw'r pethau hyn oddiwrtho? Po leiaf yr afael o'r ddaear, rhwyddach ac uwch y gellid esgyn. Onid rhan o driniaeth Duw ar ei enaid oedd tlodi a phrudd-der ei febyd? Ie, yn ddiameu. Anrhydedd fawr cael dibrisio popeth daear er Ei fwyn Ef!
Beth yw holl dda daear at ryddid enaid?
Gallai Tomos Bwen a'i deulu gysgu'n dawel. Nid ai ef heno nag un noson arall i aflonyddu arnynt, a thynnu dan seiliau eu cysuron. Pell oedd o genfigennu wrth Tomos Bwen. Yn hytrach, tosturiai wrtho am iddo werthu heddwch cydwybod mor rhad. Tosturiai hefyd wrth yr hen wraig gariasai bwysau'r gyfrinach erch am gyhyd o amser nes rhychu ei gwedd ac amharu ei synnwyr.
Cododd, ac aeth yn araf at y bwlch arweiniai o'r cae i'r lôn. Clywodd swn cerdded a siarad. Adnabu lais Ann, Maesyryn. Ar ei ffordd adref o'r Mwyndir yr oedd yn