ddiau, a Josi oedd ei chwmni. Yr oedd dydd eu priodas wedi ei benodi. Arhosodd y gweinidog lle yr oedd nes iddynt fynd heibio. Daeth llais tawel Josi tuag ato,-
Wit ti'n meddwl biddi di'n hapis yn Y Mwyndir, Ann?" "Wrth gwrs, Jo. Fiddi di a finne'r ddoi hapisa fio biw ariod! Do's dim lle fel Y Mwyndir yn y byd..
Rwi'n hoffi'r nith, rwi'n hoffi'r nith, Ac, O! rwi'n hoffi'r derin!"
ac yna swn chwerthin llawen.
Cyn mynd i'w wely'r noson honno, tynnodd Owen Elis y papyr melynwawr, rhychiog, o'i boced; edrychodd arno'n syn am funud gyfan, yna daliodd ef yn fflam y gannwyll, a gwyliodd y llawysgrif grynedig, anunion, air ar ol gair, oll yn llosgi'n ulw.
XXV.
"Un ffordd iawn, gyfiawn a gwedd,
Un arall drwy anwiredd."
PAN ddeffrodd Owen Elis drannoeth yr ymdrech, teimlai'n ddyn newydd. Yr oedd ei benderfyniad wedi ei wneud, ac nid oedd bellach fodd i'w newid. Daeth llwybr bywyd drachefn yn glir. Bu'r dydd hwnnw yn un o'i ddyddiau goreu yn ei fyfyrgell; bu myfyrio a chyfansoddi mor ddi-drafferth iddo ag anadlu.
Awyddai am fynd i'r Mwyndir drachefn i weld yr hen le a phrofi iddo'i hun nad edifar ganddo ei benderfyniad ynglŷn ag ef. Awyddai edrych i wyneb Tomos Bwen yn y goleuni newydd gawsai ar gymeriad hwnnw. Hwyrach mai eisieu cyfle oedd arno yntau i gyffesu. Ai tybed mai grisiau at y gyffes gyflawn oedd rhoddion y dyddiau diweddaf? Awyddai hefyd fynd tua Maesyryn i weld hapusrwydd yn tywynnu o lygaid diwenwyn Ann, yn y rhagolwg ar ei bywyd fel gwraig Y Mwyndir, ac yn ei dedwyddwch hi cai yntau'r dedwydd-