Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wch o feddwl y gallasai ef fod wedi cymylu ei dyfodol, ac iddo gael gras i beidio. O dan, ac yn gymysg a phob awydd arall, awyddai am fynd i Isaber, a chael eto edrych yn llygaid Gwen.

Yn hwyr y dydd hwnnw, daeth Miss Elis adref o siop y pentref a'r newydd rhyfedd fod Tomos Bwen, Y Mwyndir, ar goll. Ni welsai neb ef wedi amser noswylio'r noson cynt. Pan ddeffrodd Ester Bwen yn y bore, gwelodd nad oedd ei gwr yn y gwely, ac er chwilio a chwilio, ni chawsid dim o'i hanes yn ystod y dydd. Adroddodd Miss Elis farn hwn ac arall fel y'u clywsai yn y siop. Hen ddyn od oedd Tomos Bwen erioed.

Er fod pob ymddangosiad allanol yn ddifai, digon anghysurus oedd bywyd yn Y Mwyndir. Yr oedd ofn croesi'r hen ddyn arnynt i gyd. Yn ddiweddar, hefyd, bu- asai'n fwy cecrus nag arfer. Bernid fod ei fwriad i ymadael â'r Mwyndir wedi pwyso arno nes amharu ei synnwyr.

Ond os teimlai felly, pa reidrwydd oedd arno i roi'r Mwyndir i'w fab? Yr oedd yn drueni gweld Ester Bwen, meddid. Ofni wnaent ei fod wedi gwneud niwed iddo'i hunan rywle. Ond pa le y gallasai fod wedi mynd?

Yn gynnar drannoeth, aeth y gweinidog i geisio gweini cysur i'r teulu adfydus.

Eisteddai Ester Bwen wrth y tân cwlwm yn y gegin oreu, a shol ddu hir am ei gwarr. Edrychodd yn ofidus a hanner ofnus ar y gweinidog, a phlygodd ei phen drachefn heb siarad gair. Daeth Marged Elen i mewn. Prudd oedd hithau, ond gwridodd yn brydferth a gwenodd yn fwyn iawn wrth ysgwyd llaw. Mor fuan y daethai'r gweinidog i'w gweled! Ni chlywsai erioed iddo frysio felly at deuluoedd ereill yn eu gofid, a dyma 'fe yn eu tŷ hwy am unarddeg yn y bore!

Atebodd ei holiadau caredig a rhoddodd iddo holl hanes pethau er pan welsid eisiau ei thad. Ymhen ychydig, unodd Ester Bwen hefyd yn yr ymddiddan. Yr oedd ganddynt ryw gymaint o gysur erbyn hyn; gwelsent fod Tomos Bwen wedi cymeryd gydag ef ddeugain punt, pris nifer o fustych werthasai yn y ffair ddechreu'r wythnos. Nid oedd yr arian yn eu lle arferol, ac yr oeddent yno'r noson cyn ei ymadawiad. Awgrymai hynny mai mynd i ffwrdd i rywle a wnaethai, ac nid gwneud diwedd arno'i hun. Ond i ble a phaham? Yr hyn wnai'r peth yn fwy chwithig fyth oedd y