Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae'r cwbl yn ymddangos yn dywyll iawn. Does gyda chi ond ceisio bod yn amyneddgar. Synnwn i ddim na chaech chi air oddiwrtho cyn pen ychydig ddyddiau. Fe dry pethau'n well nag ydych chi'n ofni, rwy'n teimlo'n sicr." Dywedodd hefyd ei fod yn mynd heibio Maesyryn, ac y cariai'r newydd olaf i Ann, ac ail-adroddodd ei gynghorion ynghylch y briodas a'r symud.

Pan oedd yn ymadael, daeth Ester Bwen gydag ef at y drws, a dywedodd wrtho a'r dagrau'n ei llygaid,-

"Ma dda gen i'ch bod chi wedi dod lan i'n gweld ni yn ein gofid. Alla i'm gweid mor dda si gen i. I chi wedi rhoi pwer o gysir i fi. Diolch i chi, machgen i."

Yr oedd Leisa, Maesyryn, ar ei ffordd adref o'r siop,- yr oedd llawer o gerdded rhwng Maesyryn a'r siop y dyddiau hynny. Edrychodd yn ol o ben rhiw'r Bwlch i gael golwg ar y dyffryn ac hefyd i gael anadl, oherwydd yr oedd ei basged yn drwm. Yn nhro'r ffordd ar y gwaelod gwelodd rywun mewn dillad duon yn cerdded yn gloff. Rhoddodd ei meddwl cyflym ar waith. Dod i Maesyryn yr oedd yn ddiau, er nad o'r cyfeiriad arferol. Cymerai bum' munud iddo gyrraedd gwaelod y rhiw. Pam na fuasai hi wedi digwydd. bod bum munud yn hwyrach, ac felly gael cyd-gerdded ag ef? Cofiodd fod eisieu dweyd wrth Nel, Troedyrhiw, eu bod wedi corddi ym Maesyryn y bore hwnnw, ac am iddi ddod a'i hysten i gael llaeth enwyn. Brysiodd yn ol a'r fasged ar ei braich. Yr oedd arni ormod o frys i fynd i'r tŷ ar waethaf cymhellion Neli. Siaradodd ychydig eiriau a hi ger y drws. Yr oedd cymaint o waith ym Maesyryn y dyddiau hynny; yr oedd hi yn wir wedi blino arno, a hwyrach mai ofer fyddai'r helger i gyd eto os na cheid rhyw oleuni ar achos yr hen Domos Bwen. Yr oedd yn dda ganddi mai Ann ac nid hi oedd yn mynd i mewn i'r fath deulu.

Pan ddywedodd ei chlust effro wrthi fod yr amser cyfaddas wedi dod, cododd ei basged, chwarddodd yn llon pan ddywedodd Nel y clywid am briodas arall ym Maesyryn eto cyn hir, ac, a'r wên ar ei hwyneb aeth allan i'r lôn yr un funud ag y cyrhaeddodd y gweinidog yno.

"Helo, Mr. Elis!" ebe hi, gan agor ei llygaid mewn syndod, pwi feddylie'ch gweld chi ffor hin mor fore?"

Cafodd Owen Elis eto'r fraint o gario basged.