XXVI.
Nid oedd yno neb i'n gwylio
'N agor drws ein Heden wiw,
Dim ond swn y gwynt yn cwyno
Dorrai ar ein clyw.
DAETH y gaeaf yn sydyn. O fore Sadwrn hyd y nos Iau dilynol, bu'r glaw yn tywallt a'r gwynt yn chwythu, a thrwy gydol y dyddiau a'r nosweithiau meithion, tywyll hynny, gorweddai Owen Elis ar ei wely, yn nychu dan hynny, Manw ac nid Gwen welai Ann amlaf. Yr oedd annwyd trwm. Am y tro cyntaf yn ei oes weinidogaethol, methodd fynd i'w bwlpud ar y Sul, a gorfu i'r gynulleidfa siomedig foddloni ar gyfarfodydd gweddi.
Yn gymysg â'r danteithfwyd maethlon a'r cyffeiriau, rhoddai Miss Elis i'r claf ddognau helaeth o anerchiadau a rhybuddion ynghylch terfynau rhesymol gofal bugeiliol a diffyg ystyriaeth dynion yn gyffredinol, ac Owen Elis yn anad neb. Os cofiai unpeth, byddai, druan, yn sicr o gofio mwy drwy ei oes, iddo unwaith redeg a chwysu drwy y dydd, byw ar hanner digon o fwyd, ac yna ychwanegu at ei orffwyledd drwy aros allan am oriau yn niwl oer nos o Dachwedd. Pa ryfedd i natur godi mewn gwrthryfel?
Eithr yr oedd dioddefaint mwyaf y dyn ieuanc ymhell tuhwnt i ddeall Miss Elis ac o gyrraedd ei medr hi i'w leddfu. Yn unigedd dyddiau'r cystudd gwelodd mor anobeithiol bell oedd o gyrraedd ei ddelfryd. Addawsai roi ei holl galon a chysegru ei holl fywyd i Dduw. Gwyddai am seintiau brofasai, yn ystod tymor o afiechyd, lawenydd pennaf eu bywyd mewn cymundeb â Duw. Nid dieithr iddo yntau gynt yr un llawenydd. Belled o'r tir uchel hwnnw yr oedd erbyn hyn Beth ddaethai o'r hen fwyn orfoledd? Llifasai cariad daeorol fel llanw'r môr i'w galon. Efe ei hun oedd wedi esgeuluso cau'r dorau. Yn awr wele Dduw yn tynnu Ei ddiddanwch oddiwrtho, yn ei fwrw ymaith oddi ger Ei fron, yn cymeryd Ei Ysbryd sanctaidd oddiwrtho. A methai yntau deimlo'n edifeiriol a gostyngedig yn wyneb hynny! Hiraethai am gael codi o'i wely yn iach,—nid er