mwyn ail ymdaflu i'w waith, ond i gael rhedeg at Gwen Alun, a dywedyd ei gariad wrthi, cael yr hawl i'w chysgodi rhag stormydd malais a chenfigen, ei gwaredu o afael Fred a John, a chael nefoedd ei fywyd yng ngwên ei hwyneb a miwsig ei llais.
Tra bu'r Bugail yn gorwedd yn ddiymadferth, trodd olwynion bywyd yn ddiaros fel erioed.
Daeth prynhawn Gwener eto, ac un gwyllt a garw oedd er peidio o'r glaw. Eisteddai Gwen wrthi ei hun, o flaen y tân cwlwm siriol, a syllai yn freuddwydiol ar y fflamau gleis- ion bob yn ail a darllen y llythyr ddaliai yn ei llaw. Aethai Manw i'r pentref ar neges dros Ann, Maesyryn. Y dyddiau hynny, Manw ac nid Gwen welai Ann amlaf. Yr oedd amser Ann yn rhy brin, ac nid oedd Gwen yn ddigon iach ei chalon i fynd lawer o'i chartref. Edrychai yr hard iawn yn ei dillad duon syml. Edrychai'r gegin lân gynnes yn gysurus iawn hefyd, ond yr oedd rhyw wacter a distaw- rwydd rhyfedd drwy'r tŷ i gyd wedi symud yr hen wr. Ym- ddangosai'r hen ddodrefn cyfarwydd fel pe'n syllu'n garu- aidd ar Gwen ac yn ei gwylio'n bryderus fan honno â'r llythyr yn ei llaw.
Llythyr oddiwrth Fred oedd o un o drefi mawrion Lloegr. Aethai yno wythnos yn ol a dychwelai heno. Buasai'n ffodus iawn i gael lle da gyda'i hen feistr yn un o swydd- feydd y dref. Byddai'n dechreu ar ei waith ymhen pythef nos, a heno tua chwech o'r gloch gobeithiai weld Gwen i gael dywedyd stori ei fywyd wrthi.
A gwyddai Gwen beth fyddai' diwedd y stori honno. Byddai raid iddi bellach benderfynu un ffordd neu'r llall. Dywedasai ei mam eisoes ei bod yn bryd i Manw ddychwelyd adref. Ni allai hithau fyw ei hun yn Isaber yn ddiwaith a diamcan, a phrin yr oedd ei heisieu ar ei mam. Dyna Fred wedi gwneud yr hyn a geisiodd ganddo, sef, "cael lle bant." Sylwai pobl ar y cyfnewidiad yn ei fywyd yn ddiweddar, a charai efe hi â'i holl galon. Sut gallai ei wrthod mwy? Nid oedd modd gohirio eto chwaith. O, paham nad allai hi deimlo mor sicr a diogel ag y teimlai Ann, Maesyryn, heb gysgod troedigaeth ynglŷn â'i dewisiad!
Yr oedd Manw a hithau yno pan ddaeth Fred. Ai yr un Fred oedd hwn ag a weithiai ar gaeau Maesyryn bythefnos