yn ol? Yr oedd mor lân a thrwsiadus a gŵr bonheddig! Yr oedd ei ddillad glas tywyll yn ei weddu'n llawer gwell na dillad gwas fferm. Fel hyn yn sicr y bwriadwyd iddo wisgo erioed. Llamodd calon Gwen. Edrychodd arno gydag edmygedd diamheuol yn ei llygaid.
Prudd meddwl fel y ca'n cariad puraf ar y ddaear yn fynych ei blannu a'i feithrin gan ddamwain mewn gwisg ac ymddangosiad allanol!
Yr oedd gan Fred lawer i'w ddywedyd am ei deithiau, a chafodd y ddwy chwaer yn wrandawyr aiddgar. Ond ni allai ddywedyd ei neges pennaf i glyw'r ddwy. Trodd o'i Gymraeg bratiog i'r Saesneg,-.
"Gwen," ebe ef, "won't you come out with me? Let us go for a nice walk. I can't tell you everything here. I could not in this house even if we were alone. I want to feel the kindly night around me, its soft winds fanning my cheek, and I want to hold your dear hand in mine. Come, Gwennie dear."
Aethant heibio Penffynnon, ac i fyny drwy'r lôn gul, hir hyd y fan lle y cydia a'r brif-ffordd. Hyfryd iawn wedi'r cyfan oedd bod yng nghwmni Fred. Yr oedd ef mor gryf, meddai gymaint o awdurdod mwyn; yr oedd mor ffit i gwrdd a'r byd, ac eto mor dyner. Gyda phob cam pwysai Gwen yn llwyrach arno. Safasant wrth yr un iet ag y pwysai Gwen arni ar y noson bell honno yn y Gwanwyn, pan gerddasai gyntaf gyda Fred.
Mor hardd wyllt oedd y nos! Yr oedd lleuad rywle yn y nen, ond cuddid hi'n llwyr gan gymyl trwchus afonydd. Rhuai a chwynfannai'r gwynt bob yn ail. Crynai a phlygai pob llwyn a choeden. Yr oedd Natur oll yn gruddfan. Llanwyd calon Gwen a dychryn dieithr.
A'i Gymraeg amherffaith, swynol, ac weithiau mewn Saesneg bron rhy ddwfn i Gwen i'w ddeall, adroddodd Fred stori el orffennol yn llawnach nag y gwnaethai erioed o'r blaen. Cododd gwrr y llen ar ei fywyd yn y dref cyn ei ddyfodiad i Gymru. Nid oedd y ddalen yn wen i gyd, ac wrth ddatguddio'r darnau duaf, gafaelai yn dynn yn llaw Gwen fel pe bai arno ofn iddi redeg a'i adael cyn clywed y cwbl. Eithr ni charasai un ferch erioed fel y carai Gwen. Wedi ei gweld hi y dechreuodd ffieiddio ei ddull o fyw, ac awydd