Gwen gerllaw. Dyna 'i wedi spwilo heddi i ni i gid. Diolch nad all hi'm boddran neb mwi! Odw, Gwen, mei-ledi, wi'n falch gal lloni da ti.'
XXVIII.
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth Dy lais hyfrydaf, tawel,
Yn distewi a mynd yn fud.
—WILLIAMS, PANTYCELYN.
ERBYN hyn, wedi blynyddau lawer, medr Bugail y Bryn hefyd lwyr lawenhau ddarfod symud Gwen. Iddo ef,
""Tis better to have loved and lost,
nag unrhyw amodau ereill i gariad daear. Nid am beidio o hono a charu Gwen a'r atgof am dani. Mwyn a hudolus fu teimlad y dyddiau gynt,—ond mor llawn o ing ac o ansefydlogrwydd dihedd! Bu ei gariad tuag ati bron a bod yn fagl iddo, yn gaethiwed i'w enaid. A beth pe gwelsai hi yn wraig i arall? Mwy fyth fuasai ei ing, ei gyffro, ei gaethiwed. A Gwen yn y nef, un a'i gariad at y tragwyddol, pur fel hwnnw, yw ei gariad tuag ati. Cafodd yr hyfrydwch o wybod fod Gwen yn ei garu'n ol. Rhoddodd Duw iddo brofiad melysaf daear, ond cymerodd ef oddiarno cyn i'r melyster hwnnw edwino a gwywo ei iechyd ysbrydol. Ie, "Wele, fab dyn, Fi yn cymeryd oddiwrthyt ddymuniad dy boddlongar mewn unrhyw gylch. Na, os am esgyn, rhaid lygaid a dyrnod, eto na alara, ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau.
Fe glyw fynych son am "sancteiddio holl gysylltiadau bywyd". Onid gwŷr cyffredin ym myd yr ysbryd a sieryd felly? Iddo ef, mwy annioddefol na dim yw cyffredinedd