ofynnai am ei bresenoldeb, a chafodd ei gario i lawr yng ngherbyd bychan esmwyth Mr. Puw y Rheithor, gyda Mr. Puw ei hun yn gwmni. Yr oedd gan Gwen felly ddydd hir o Fai i'w dreulio wrthi ei hun.
Gan fod y ffermwyr a'u gweision yn y ffair, yr oedd swn arferol dydd gwaith wedi peidio. Ni welid neb yn llafurio hyd y caeau. Dadluddedai'r ceffylau blinedig hyd y meysydd glas, gan edrych fel pe'n methu deall ystyr y seibiant sydyn. Teyrnasai tawelwch Sabathaidd drwy'r wlad, a cheinder hudol Mai yn hulio bro a bryn.
O ymyl y ffordd lle y croesid yr afon Gwynli gan y bompren gul, ymestynnai dolydd Maesyryn am bellter hir gyda glan yr afon. Yn gynnar yn y Gwanwyn, buasid yn torri tanwydd yno, a gadawsid aml hen foncyff yma a thraw a ffurfiai sedd gysurus ar fin yr afon. At un o'r rhai hyn y cyfeiriai Gwen ei chamre yn gynnar yn y prynhawn a llyfr yn ei llaw.
Cyn cyrraedd bwlch y ddol, pwy welai yn cerdded yn araf i'w chyfarfod ond Owen Elis! Edrychai'n fyfyrgar tua'r llawr, pwysai weithiau'n drwm ar ei ffon, a chariai ei het wellt yn ei law. Braidd na wridodd pan gododd ei ben yn sydyn a gweld Gwen yn ei ymyl. Safasant i siarad ynghanol y tawelwch Sabathaidd a cheinder hudol y tymor mwyn.
Trodd Gwen yn ol gydag ef, ond pan ddywedodd fod ei thadcu wedi mynd i'r ffair, arhosodd Mr. Elis.
"Ddo i ddim i'r tŷ, ynte, gan nad yw'ch tadcu gartre, ebe ef, ac edrychodd ar Gwen a'i llyfr. Nid oedd am ei gadael ar unwaith hefyd. "Oeddech chi'n mynd rywle?" "Mind i'r ddol i iste—i eistedd ar lan yr afon own i. Wi'n leico darllen yn swn y dwr," ebe Gwen, ac ychwanegodd yn syml, gan edrych i wyneb y gweinidog,—
"Odich chi wedi mind nol ariod trw lwibir y ddol? Mai'n nes i chi na mind trw'r ffordd ac yn sichach lawer. Ma pompren fach yn croesi'r afon yn y ddol ganol. Mi ddangosa i'r llwibir i chi, os i chi am."
Felly cyd-gerddodd y ddeuddyn ieuanc trwy'r ddol las, esmwyth, hyd lan yr hen afon fechan droellog, o olwg ac Yno wrthynt o glyw pawb ond y gwartheg breuddwydiol. eu hunain, mor naturiol y siaradent! Deuai'r meddyliau a'r geiriau yn rhwydd a didrafferth. Ni chlywsent,—ni