chlywsai Gwen leiaf—son erioed am gydnawsedd ysbryd." Ni feddyliodd yr un o'r ddau ymholi paham y caent bleser mor fyw yng nghwmni ei gilydd,—paham yr ymdoddai un enaid i'r llall mor llwyr. Profasant y gwmniaeth felys, bur, sydd o hyd yn bosibl rhwng ambell fab a merch.
"When each by turns was guide to each,
And Fancy light from Fancy caught;
And thought leap out to wed with thought,
Ere thought could wed itself with speech.
Daethant i ymyl hen foncyff hir, braf, ar fin y dwr. "Fan hin own i'n mind i is—i eistedd," ebe Gwen. Eisteddodd y ddau yn swn murmur hyfryd yr afon, gan wylio ambell frithyll chwaraeai yn y dwr. Cofiodd Gwen am ei llyfr.
Llyfr o donau bychain syml i blant ysgol oedd, a'r geiriau'n Saesneg, wrth gwrs. Caneuon Moore oedd y rhan fwyaf ohonynt. Cymerodd Owen Elis y llyfr o law Gwen. Trodd y dail, a chanodd mewn llais isel, un alaw fechan ar ol y llall, ac weithiau, bron heb yn wybod iddi, unai Gwen ag ef, ac ymgymysgai'r ddeulais yn fwyn.
"Ma na în ddeuawd i gal," ebe Gwen. Dyma hi,— Isle of Beauty." Canwch chi'r Alto, mi gana inne'r Top."
Cydganodd y ddau,—
Shades of evening close not o'er us,
Leave our lonely bark awhile!"
Swynol iawn oedd yr alaw a'r geiriau. Canasant y pennill cyntaf drosodd drachefn, ac ymddangosai Natur oll fel pe'n gwrando arnynt. Ym murmur isel yr afon deuai ambell nodyn lleddf, lleddf, i ymgymysgu a seiniau clir y mab a'r ferch pan ganent, feallai'n ddifeddwl ddigon,— "
Darker shadows round us hover,
Isle of Beauty, Fare thee well! ",
"Odich chi'n gwbod, Flow On, Thou Shining River,'" gofynnai Gwen. "Dyma hi.
"Ydw. Mi gyfieithes y geiriau yna rywbryd. Leicsech chi eu clywed nw?"