"O, leicwn, os gwelwch chi'n dda."
"Dw i ddim yn siwr o'u cofio ar unwaith, ond mi hysgrifenna i nw. Fe ddôn i'r cof, felly."
Tynnodd ddarn o bapyr o lyfr a gariai yn ei boced, ac ysgrifennodd arno'r ddau bennill. Dilynai llygaid Gwen bob gair fel y deuai,—
"O llifa, afon loew;
Ond cyn daw'th daith i ben
Gwna daflu'r blodau tlysion hyn
I ymyl cartref Gwen;
A dywed wrth yr eneth fwyn,
Os gwna hi ddod yn eiddo i mi,
Ein bywyd fydd mor llawn o swyn
A'r blodau ddygaist ti!
Ond os mai diystyrrwch
Oddiwrthi fydd fy rhan,
O! gad i'r blodau tlysion per
I wywo ar dy lan!
A dywed wrthi drosof fi,
'Rol darfod dyddiau ie'nctyd iach,
Yn unig, oer, heb swyn bydd hi,
'Run fath a'r blodau bach."
Daliodd y papyr o flaen Gwen tra bu hi yn ei ddarllen.
"O, ma nw'n bert!" ebe Gwen, gan edrych gydag edmygedd ar y gweinidog. "Dyna glefer i chi! A ga i i cadw nw, Mr. Elis?'
Plygodd Owen Elis y papyr, a rhoddodd ef iddi heb ddywedyd gair. Rywfodd distawodd y ddau. Ni lafai'r geir iau mor rhwydd a chynt. Cyn hir, cododd Gwen, gan ddywedyd,—
Ma rhaid ifi find. Mr. Elis. Falle daw Daci gatre'n ginnar. Ma'r bompren lan fan na, a ma'r llwibir yn ddigon amlwg. Fe ddewch mâs yn Llainddu."
Dywedodd y gweinidog y cerddai yn ol gyda hi hyd y bwlch. Yna ysgwyd dwylaw gan wenu, ond yr oedd rhywbeth newydd wedi dod i'r ddwy wên ac i gyffyrddiad y ddwy law. Aeth y gweinidog yn ol drachefn drwy'r ddol, ac wrth fynd i fyny drwy'r ffordd fach arw, ail-ddarllenai Gwen eiriau'r gân.