"Na fe, bidd, shwr. Widdoch chi pwi weles i heddi yn helpi gida'r din brinodd y nifeiled gen i? Gŵr y Rachel ni we'n forwn da'r hen Sion Bŵen yn Y Mwyndir. Ma hi ag inte'n biw sha Glynygroes, nawr."
Yfodd Tomos Bŵen ei wydriad gwin cyn ateb.
"O," ebe ef. "Nabiddes i'm llawer o'r feniw ariôd. Wedd i'n briod pan ath hi o ma, te?"
"Nag wedd. Dîn o'r Rhondda na iw e."
"Glynygroes, wetsoch chi?"
"Ie shwr. Diw hi'm yn iach iawn, mynte'r din bach, a wedi minnid dod nol i fiw."
"O. Ma oed mowr arni nawr ginta. Ma igen mline o ar gadodd i'r Mwyndir, ag wedd' i'm yn ifanc iawn prinni, os w i'n cofio'n iawn. Hei! dewch a glased o frandi ma. Ifwch chi lased arall, Ifans?"
"Na-na, tenci, Tomos Bŵen. Ma hwn yn gimint ag a alla i ddala heddi."
"Wi'n teimlo rhiw wendid arna i, chi. Y gwrês ma, gwlei, si'n llethol."
Tua deuddeg o'r gloch, safai Fred, a'i bwys ar un o'r ceirt o flaen y Red Lion, gan edrych yn fynych i ben y rhiw fel pe yn disgwyl rhywun. O'r diwedd, ymuniawnodd, a chroesodd yn heini i ganol y ffordd i gyfarfod â Gwen.
"Helo, Fred! Le ma Ann?" gofynnai Gwen.
"Ann a Jo wedi mind," ebe Fred, gan godi ei ysgwyddau a chyfeirio at ben ucha'r dre.
Edrychodd Gwen yn siomedig, a Fred heb dynnu ei lygaid oddiarni.
Gwen," ebe ef yn dyner, "come with me to-day. Let me help you to enjoy yourself.
"O, I don't know, indeed," ebe Gwen, gan droi draw.
Rhaid i fi brini hat, no, a phrini lot o bethe erill. Falle gwela i Ann to."
"May I walk down with you?" gofynnai Fred.
O, come then, if you like," atebai Gwen.
Felly, drwy'r dyrfa aflonydd cerddodd Gwen, ar y cyntaf fel pe yn rhyw hanner boddlon, yn ymyl y bachgen tâl, lluniaidd. Dan ei arweiniad profiadol ef, cafodd ei rhan o bleserau diniwed y ffair. Ac, fel arfer, wedi'r munudau cyntaf o hanner cywilydd, daeth Gwen yn hollol rydd yn