Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gwmni, a mwynhaodd ei hun hyd yr eithaf. Yr oedd Fred mor dal a heini, mor garedig, cymerai ofal mor llwyr o honi, a gwyddai bopeth am bob lle mor dda. Rywfodd, ymddangosai yn fwy o ddyn nac, hyd yn oed, unrhyw fab fferm a adwaenai Gwen. Ac wrth deithio tuag adref yn y cyfnos mwyn, drwy yr heol fach gul a arweiniai at Isaber, melys iawn oedd teimlo braich gref Fred am dani, a chlywed ei eiriau mwyn. Wedi prynhawn mor hyfryd yn ei gwmni, sut medrai wrthod iddo un cusan?

Y noson honno ar ei gwely, wedi terfysg y dydd, cai Gwen ei hun heb yn wybod iddi, yn eistedd gyda'r gweinidog ar yr hen foncyff ger yr afon, ac eilwaith a thrachefn deuai swn eu deulais i'w chlustiau yn cyd-ganu'r ganig fechan dlos,-

"Shades of Evening, close not o'er us, Leave our lonely bark awhile!"

"O diolch," ebe hi, "na welodd mo Owen Elis fi'n dod gatre ym mraich Fred."

XI.

"Asgre lân, diogel ei pherchen."
HEN DDIHAREB.

YR oedd y Gymanfa Dairsirol wrth y drws. Yng nghyfarfod y diaconiaid fore Sul penderfynwyd galw pwyllgor yn ystod yr wythnos i drefnu ynghylch bwydo'r torfeydd ddisgwylid, ac hefyd, bod ffermwyr a theuluoedd cyfrifol ereill yr ardal i gael eu gwahodd i teya'r gweinidogion. Addawodd y Bugail fynd ar hynt o ymweled, a thynnu allan restr o'r cartrefi a foddlonai gymryd dau weinidog neu fwy i aros noson.

Safai'r Mwyndir ar lethr o fewn llai na hanner milltir i gapel Y Bryn. Ymestynai ei ddaear fras i lawr hyd làn yr afon. Yr oedd yno dŷ cyfleus, a chedwid ef mor lân a threfnus ag unrhyw dŷ yn y gymdogaeth. Ar y bore Llun