no wedi hinni, a dw i ddim yn meddwl y gŵir neb ma pwi rwm wedd hwnnw. Wi'n cofio clwed rhiw son am y tân, flinidde lawer cin i Sion farw wrth gwrs. Allwch weld y ti wrth gwrs, brid minnoch chi, ond do's ma neb yn shwr am y rhwm."
"O, does dim gwahaniaeth felly. Roedd' creithiau dyfnion ar wyneb a dwylaw mam, a llawer gwaith y gorfu iddi esbonio'r achos o honynt i mi."
"Ie, ie, i chi'n eitha reit. Os w i'n cofio'n iawn, fe gas e'ch mam igen pint am i thrwbwl. Arian mowr! ond dina shwt i'n wedd Siop y nghender. Ie, arian mowr, wa'th marw nath y losgron fach, wedi'r cwbl."
Buan cododd Owen Elis i fynd adref, ac aeth Tomos Bŵen allan gydag ef hyd ben y llwybr, gan graffu arno beunydd yn llechwraidd drwy ei lygaid meinion. Wrth ddychwelyd at y tŷ, cerddai a chamre bychain brysiog yn ol ei arfer, ei ddwylaw ar ei gefn a'i olygon tua'r llawr fel mewn penbleth.
"Be si'n bod, chi?" gofynnai ei wraig wrth ddod o'r beudy a'r gunog laeth yn ei llaw. "Ath Mr. Elis?"
"Hm! Do. Fise'n dda gen i swn i heb ariôd weld yr hen hwlcin cloff! Shwt bies i mor dwp? Pam na fiswn i wedi holi? Ond dw i'm yn meddwl fod neb ffor hin yn gwbod dim am i rieni e. Ma'r hen griadir mor ddistaw am i bobol! Wyddost ti pwi iw e? Mab yr hen Gatrin!
XII.
Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
Y'r holl awyrgylch sydd yn ddu.
—MYNYDDOG.
TRA'R oedd pawb o drigolion Cwmgwynli yn edrych ymlaen at y Gymanfa,-a'r bywyd newydd hwnnw y soniai Tomos Bŵen am dano yn dechreu cael ei deimlo drwy'r ardal; y gwniadyddesau a'r teiliwriaid yn brysur; pob perchen gardd yn ei chwynu a'i thrin; tai yma a thraw yn