Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael eu gwyngalchu y naill ar ol y llall; merched gwamal. fel Ann Maesyryn, a Gwen Alun, yn son am rubanau a gwisgoedd acin; y siopwyr yn symud yn ysgafn-droed ac yn derbyn i'w tai gyflenwad o nwyddau;—daeth digwyddiad cyffrous arall i dorri ar lonyddwch y fro.

Yr oedd buwch benwen Maesyryn wedi hen anghofio ymweliad y ddau foneddwr yn nechreu Ebrill, a phorai bob dydd ar y ddol las yn dawel-ddiddig gyda'r gwartheg ereill. Ond ryw fore yn fuan wedi ffair haf, daeth dau wr drachefn i'w gweled, a braidd yn ddiarwybod iddi, rhoddwyd torch ddur greulon yn ei ffroenau, ac, o'i hanfodd, a hi yn edrych o'i chylch yn syn, arweiniwyd hi i'r clôr. Yno yr oedd tyrfa drystfawr wedi ymgynnull, a swn pedyll yn tincian a chyrn yn canu.

Daeth y swn aflafar i glustiau Gwen Alun tra'n prysur chwynnu'r pâm cennin yn yr ardd. Cododd ei phen i wrando, gan fethu deall beth oedd y twrw anarferol, ond pan glywodd swn y pedyll rhedodd i'r tŷ gan waeddu,—

"Daci! Daci! Ma'r Bwms mas. Wi'n shwr taw ym Maesyryn ma nw. Ma nw wedi dod i werthu fiwch, gewch wedd.

"Falle wir! Ma nw mas heddi to! Ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru," ebe Dafydd Alun, gan blygu ei bapyr a chymeryd ei ffon a mynd allan. "Wês ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru. Gwell i ti fynd lan i gal gweld be sy'n mynd ymlân. Ie, wirione, ym Maesyryn ma nw."

"Mi af fi te," ebe Gwen, gan wisgo ffedog lân. Os na ddo i nol erbin cinno, ma iwd yn barod yn y ddisgil ar fainc fach y lleithdy, a ma llâth yn y badell felen." Rhedodd drwy Barc y Big a Pharc y Bariwns ac i fyny drwy'r clòs nes cyrraedd ymyl y dyrfa. Yn y canol gwelai'r fuwch ddychrynedig, a'i llygaid mawr, prudd, yn dweyd mor anesboniadwy iddi oedd triniaeth mor chwerw ar fan mor gyfarwydd. Yn ei hymyl yr oedd dyn tal yn gafael mewn rhaff gref, a honno'n glymedig am y dorch ddur oedd yn ei thrwyn. Gerllaw, safai dyn bychan arall, ac ychydig greithiau duon ar ei wyneb, yn edrych fel pe rhoisai'r byd am le i ffoi o wydd y dyrfa aflonydd, fygythiol, oedd o'i gylch. O ba le y daethai cynifer o bobl mewn cyn lleied