Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o amser? Deuent o hyd drwy gaeau a thros wrychoedd, rhai yn cario pigffyrch, ereill bastwyni mawrion, ereill gyrn, neu unrhyw fath ar lestr a wnai aflafar dincian.

Gyda chryn anhawster, llwyddodd Gwen i gyrraedd diogelwch clawdd y berllan, lle y safai Anna Ifans a Leisa ac Ann yn gwylio'r digwyddiadau ar y clôs. Ond ychydig ellid weld oddiyno. A oedd yn bosibl fod y fuwch yn cael ei gwerthu? Pwy fedrai beri clywed ei lais yn y dwndwr ofnadwy? Ymddangosai pawb ar ei eithaf yn bloeddio, yn oernadu, neu yn gwneud swn o ryw fath, a rhuthrent i gyd drwy ei gilydd fel anifeiliaid gwylltion. Dacw rywbeth yn cael ei hyrddio drwy'r awyr i gyfeiriad y gwerthwr, a chwerthiniad calonnog y dyrfa yn dangos ei fod wedi cyrraedd ei nod. Curai calonnau'r gwragedd gan fraw o weld Morgans y Polis a heddgeidwad arall yn cerdded yn dywysogaidd at y dorf. Pwy wyddai beth ddigwyddai? Nid peth amhosibl fai gweld clwyfo a lladd mewn tyrfa mor anhydrin. Lliniarodd y terfysg ryw gymaint wedi dyfodiad gwŷr y gyfraith, a buan gwelai Gwen a'i chwmni symud cyffredinol tua chyfeiriad y lôn. Canai'r cyrn a thincianai'r pedyll mor aflafar ag erioed. Yr oedd y fuwch wedi ei gwerthu i rywun. Gwelsant hefyd fod y dyn a'i harweiniai wedi colli ei het, ac fod ei ddillad ef a'i gymdeithion yn wlyb gan ryw hylif drewedig. Rhedodd y tair merch i ymgymysgu â'r dorf, ac aeth Anna Ifans yn brudd ei gwedd a lleddf ei llais tua'r tŷ.

Rywbryd yn y prynhawn, a'r fuwch benwen a'i gosgorddlu trystfawr erbyn hynny ymhell ar ei ffordd i'r orsaf, safai Leisa ac Ann a Gwen Alun yn flinedig yn ymyl yr iet wen, yn trist adolygu digwyddiadau'r dydd.

"O dir," ebe Ann, "wn i'm shwt ma. codi i odro fori, a gwbod na fidd mo Penwen no i ddod ata i o weilod y clôs fel arfe i ofin am i godro. O druan fach! Wedd i'n drichid arna i felse i'n sinni bo fi'n galler sefill fan ni i gweld i'n cal i phoini."

"Drian fach!" ebe Gwen. "Dyna în o'r pethe wi ddim yn ddiall yn y bid ma—pam ma criadiriaid mîd a diamddiffyn yn gorffod godde cimint o'i drelo!"

Erbyn hyn, wylai Ann yn hidl i'w ffedog, "Paid gwenwino. Ann!" be Leisa'n llym. "Beth ta dim ond în