Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie."

'Pwi si'n gneid cinno iddo te?"

"Nês i honno'n barod cin dod."

"O, wir."

"Ma'i bron yn brid te nawr, hefid. Rhaid i fi find," ebe Gwen.

Widdoch chi pwi ath o'r golwg yn y tro obri nawr? Y gweinidog! I'ch ti chi mai e'n mind, ginta. Mi eithwn i gatre ar ras 'swn i'n eich lle chi."

Gwridod'd Gwen, ac edrychodd Ann arni gan wenu drwy ei dagrau. "Ble gwelest ti e, Leisa?" gofynnai.

"Se di liged dithe ar gored, gwelset tithe fe. Mai e newi find heibo'r tro. Mai e shwr o fod yn Isaber nawr. Cerwch gloi chi, Gwen."

Fflachiodd Gwen un olwg arni, a'r llygaid oedd fynychaf, fel y dywedai Leisa, mor dawel a llygaid Penwen, a dywedodd,—

Falle leicech chi find. Dyma gifle i chi.

Mi arosa i fan hin am awr arall. Whilwch riw neges at Daci."

"O, na i mo'r tro iddo, wi'n shwr," ebe Leisa'n fwyn, "nac i Fred chwaith. Odich chi'n gweid wrth Mr. Elis e'ch bod chi heb benderfyni rhinto fe a Fred to?"

Cyn i Gwen gael amser i ateb, dywedodd Ann, gan bwyso ar yr iet, a swn wylo ar ol y fuwch o hyd yn ei llais,—

"Blin iw cari yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnnw,
Ond o'r blinderau, blinaf blinder,
Cur annifir cari'n ofer."

Yn hytrach na chweryla, bu'r tair yn ddigon doeth i newid yr ymddiddan. Cyn hir, aeth Gwen i lawr drwy'r lôn ei hun, a throdd Leisa ac Ann tua Maesyryn. Ond wedi dechreu'r ffordd, rhedodd Leisa'n ol yn sydyn i ymyl yr iet, a mynnodd weld i ba le yr ai Gwen. Gwelodd hi'n troi i mewn i Benffynnon. Gwasgodd ei dannedd ynghyd yn ei thymer.

"Yr hen ffwl!" ebe hi, a cherddodd tuag adref heb ym ostwng i esbonio dim o deithi ei meddwl i un mor ddistadl a'i chwaer Ann.