Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIII

Pa beth yw Storom? Awel yn ei grym.
—ISLWYN.

ER prinned ei hamser, ni allai Gwen fynd heibio tŷ Nani a Sali heb alw i holi hynt ei dwy hen ffrind. Cai Leisa, os dewisai, weld nad oedd gormod o awydd arni i redeg tuag adref i weld Mr. Elis. Tynnodd ei het, cariodd hi ar ei braich, a cherddodd yn araf. Yr oedd am deimlo'r awel fwyn wrth chwarae a'i gwallt yn llonyddu tipyn ar ei hysbryd wedi cyffroi cymaint dan eiriau Leisa. Ond ai nid gyflymed ag y medrai tuag adref y chwenychai fynd? Wrth ymdroi felly a pheri iddi ei hun fynd i mewn i'r bwthyn, ceisiai dwyllo ei hun a thwyllo unrhyw un a fynnai ei gwylied; ond ar yr un funud penderfynai rhyw feddwl arall o'i mewn na wnai aros ond ychydig iawn o amser yn y tŷ, ac y gallai redeg tipyn wedi mynd heibio'r tro. Swniai ei chlocs y glir ac uchel ar y cerrig gleision llyfn o flaen y tŷ. Cerddodd i mewn yn ddibetrus gan alw'n llon, "Ble ma'r bobol ma heddi?"

Nid cyn sefyll o honi ar ganol llawr yr ystafell fechan dywell y clywodd lais tawel-ddwfn y gweinidog yn darllen. ac y gwelodd Sali, a'i hwyneb Dydd Sul, yn amneidio arni wylio ar ei throed wrth ddyfod i mewn, ac yn dangos cadair iddi i eistedd. Safodd Gwen am eiliad mewn petruster syn, ond yr oedd yn rhy ddiweddar i redeg allan heb air o eglurhad. Felly eisteddodd, gan edrych yn ddyfal tua'r llawr.

Darllenodd y gweinidog un adnod gyfan a'i lygaid ar Gwen, yna gorffennodd y bennod fel pe na bai hi yno. Eisteddai Nani yn y cornel, yn ymyl y ffenestr fach a'r gwely, a'i llygaid direidus yn mynnu troi i gyfeiriad Gwen, gan ddisgwyl cyfle i roi gwên lydan iddi hyd nes ceid amser i chwerthin yn uchel ar ddigrifwch y sefyllfa. Ar y stol deir- troed yr eisteddai Sali, gan roi ochneidiau aml, a mynych sychu ei hwyneb a'i chadach poced glân, yn union fel pe bai yn y capel.

Wedi darlleniad y bennod, penliniodd y pedwar ar y llawr