Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pridd,—pob un a'i bwys ar ei gadair, ac offrymodd y gweinidog weddi dyner. Cai Gwen o'i chongl lawn olwg arno, ac fel yn y capel er ys llawer Sul bellach, cai y pleser o syllu arno'n ddirwystr tra'n gwau ei breuddwydion per am dano. Bellach, cawsai lawer cyfle i siarad ag ef ac i'w adnabod. Buasai ef droion yn Isaber, a dywedasai unwaith fod y cartref yn Fethania iddo, a'i bod hi yn Fair a Martha. Ni ddywedasai ddim yn fwy pendant na hynny, ond a oes eisieu mynegiad o'r ffaith mewn geiriau noeth cyn i ferch ddeall fod mab yn ei charu?

Cofiodd Gwen yn sydyn am eiriau Leisa. Diau ei bod wedi gweld Mr. Elis yn troi i Benffynnon, ond ei bod am iddi hi fynd adref heb ei weld. Gwenodd wrth feddwl beth ddywedasai Leisa o'i gweld yno wedi'r cyfan. Dechreuodd ei chalon guro'n gyffrous wrth glywed y weddi yn tynnu at y terfyn. Yr oedd ar fin mwynhad mawr,—os mwynhad hefyd. Hwyrach mai siom a'i harhosai. Boddlon fuasai i'r weddi honno bara awr arall. Buasai'r awr honno beth bynnag, yn fwynhad digymysg.

Dilywodraeth felly yw meddyliau merch! Gwridodd Gwen gan gywilydd pan ddaeth Amennau'r gweinidog a Sali a hi ati ei hun. Cododd pawb.

"Adar o'r inlliw hedant i'r inlle," ebe Nani, a pharai rheolau moesgarwch yr adeg a'r cwmni nad allai Sali hyd yn oed edrych yn llym arni, llawer llai weinyddu cerydd. Esboniodd Gwen ei dyfodiad diseremoni tra'n ysgwyd llaw â'r gweinidog. Yr oedd yn dda cael rhywbeth i'w ddweyd rhag datguddio pethau cyn yr amser. Siaradwyd am y gwerthu, y dyrfa, y fuwch, a phethau ereill. Pan ddywedodd Gwen fod yn rhaid iddi fynd, ffarweliodd y gweinidog hefyd a'r ddwy hen wraig, a chafodd Nani gyfle i roi winc awgrymiadol ar Gwen.

Aeth y ddau allan gyda'i gilydd, ond am ryw reswm, nid oedd gan y gweinidog nemawr i'w ddywedyd. Bwriadai fynd adref heibio Maesyryn. Cnodd Gwen ei gwefus rhag iddi grynu gormod. Yr oedd Leisa i gael ei dymuniad wedi'r cyfan, a hithau i fynd adref a brath yn ei chalon! Ar y funud honno, clywyd chwibanu llon, a gwelwyd Fred yn croesi'r cae gerllaw ar ei ffordd yn ol o hebrwng y dyrfa. Cerddai'n wisgi a'i ddwylaw yn ei bocedi. Yn hytrach na