Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thrafferthu i agor y llidiart a safai o'i flaen, gosododd ei law arni a neidiodd yn chwim drosti. Pan welodd Gwen a'r gweinidog, ataliodd ei chwibanu, cododd ei gap yn siriol, ac aeth yn ei flaen. Edrychodd Owen Elis yn llechwraidd ar Gwen mewn pryd i'w gweld yn gwenu ar Fred. Gwelodd y pelydr yn ei llygaid a'r gwrid ar ei hwyneb, ac aeth symudiadau heini Fred a swn ei chwiban llon yn chwerwder ysbryd i'r dyn ieuanc cloff. Dywedodd drachefn ei fod yn mynd heibio Maesyryn, a thra y dywedai hyn, cadwai Gwen ei golwg ar Fred yn symud ymlaen yn y pellter cyn troi i ddymuno Prynhawn Da' yn siriol. Yna aeth adref a'i het ar ei braich, gan fwmian canu er mwyn ceisio perswadio'i hun ei bod yn hapus.

Yr un yw ystrywiau bycha mab a merch yng nghyrion pella'r wlad ag yn lleoedd mwyaf ffasiynol y byd. Mae Afon Cariad yr un mor anodd i'w mordwyo yn y naill le a'r llall. Gwaeda calonnau a gwelwa wynebau am achosion sydd yn debig iawn i'w gilydd ym mhobman.

XIV.

"Ni chaf chwaneg fynegi
Y ffordd arall deall di."

WRTH fynd tua'i chartref, meddylai Gwen mor wahanol oedd ei byd yn awr i'r hyn a fuasai dri mis yn ol. Erbyn hyn, yr oedd muriau wedi syrthio, a'i byd bach wedi lledu'n sydyn. Daethai'r gweinidog i'w bywyd, ac wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd! Daethai Fred hefyd. Gwas fferm oedd Fred, a 'hen Sais' oedd, ond gwyddai Gwen nad oedd hynny yn ddisgrifiad llawn ohono. Beth bynnag a fuasai ei orffennol, nid i fod yn was fferm y cawsai ei ddwyn i fyny. Yn ei gwmni ef arweinid hi allan i gyfeiriad newydd,—i ryw fyd dieithr ond llawn o swyn. Dau ddyn a'u trem ar fywyd yn hollol wahanol oedd y gweinidog a'r Sais, a datblygent ddwy duedd hollol wahan-