ol yn ei natur hi, nes creu brwydrau mewnol mynych. Ond nid oedd gan y brwydrau mewnol hyn ddim i wneud a theimlad ei chalon tuag at y naill a'r llall. Cai hyfrydwch yng nghwmni Fred. Treiddiai dylanwad y gweinidog yn ddyfnach. Efe'n unig a feddai'r gallu i roi iddi
"Wae a gwynfyd,
Nef ac uffern bob yn ail."
Gwrandawsai Duw ar ddeisyfiad ei henaid, a rhoisai iddi fwy nag a ddymunasai gael. Ni ofynasai hi erioed, yn. nyddiau mwyaf llwydaidd ei bywyd, am y 'cur annifyr,' yr ing, a'r anesmwythyd a deimlasai yn ddiweddar. Yng nghyfarfodydd gweddi'r Bryn, clywsai fynych ddefnyddio'r frawddeg "Ni wyddom ni pa beth a weddiom megis ag y dylem." Ai tybed mai ofni wnai yr hen weddiwyr profiadol osod llawer o'u dymuniadau hoffusaf gydag eglurder gerbron yr Orsedd, rhag y byddai raid derbyn llawer o extras anhyfryd ynglyn a'r atebion iddynt?
Pan ddaw Cariad i mewn i'r bywyd, rhaid i bob merch, ac eithrio'r rhai anaturiol gall, gael rhannu'r dedwyddwch a rhyw ferch arall. Ddwywaith a mwy bob wythnos, mynnai Ann a Gwen ryw esgus i fod yng nghwmni ei gilydd. Ni flinai Ann ddyfod a Josi'r Mwyndir gerbron bob tro yn holl agweddau ei gymeriad; oherwydd, er llwyred' ei hadnab ofynyddiaeth ohono, deuai rhyw swynion newydd ynglyn ag ef i'r golwg yn barhaus, a byddai raid i Gwen roi ei barn ar lawer gair ac ymddygiad o'i eiddo, ac edmygu'n briodol ei fwynder fel dyn, ei dalent fel amaethwr, a'i berffeithrwydd cyffredinol. Lle hyfryd i fyw ynddo fyddai'r Mwyndir. Ar briodas eu mab, ai Tomos Bŵen a'i wraig a'i ferch yn ol i'r hen gartref,—Pencnwcbach. Yr oedd yn awr yn Orffennaf, a rywbryd tua'r Nadolig byddai Ann yn wraig yn Y Mwyndir.
Nid mor sicr oedd Gwen ynglyn a'i hapusrwydd dyfodol. Rhyw sicrwydd mewnol,—y peth amhendant ac anelwig hwnnw,—yn unig a feddai hi. Ond y mae i ddealltwriaeth gyfrin felly rhwng deuddyn ei swyn a'i melyster ei hun Hanner ofnus y soniai Gwen am ei chariad. Yr oedd y gogoniant mor danbaid, rhyfyg fyddai bod yn ddiofn, ac yr oedd Ann dan rwymedigaeth i beidio datguddio'r gyfrinach fwyn hyd nes cai ganiatad.