Trefnasai'r ddwy fynd gyda'i gilydd ar nos Iau, drannoeth gwerthu'r fuwch, i dŷ'r wniadyddes, Martha'r Bont. Yr oedd dydd pwysig y Gymanfa yn dod, a dillad newydd Gwen heb eu dechreu. Yn fuan wedi saith o'r gloch, galwodd Ann yn Isaber ar ei ffordd, yn ol y cytundeb.
"Wi bron bod yn barod," gwaeddai Gwen o'r llofft pan glywai Ann yn dod i mewn. "Isteddwch finid. Rhaid i fi aros nes daw Daci nol. Fidd e ddim yn hir, wi'n shwr."
Atebodd Ann ar gân,-
"Gwen Alun, Gwen Alun, be si arnoch chi chwant? Fe ddaw Owen Elis i'ch mofin chi bant, A'i geffil, a'i garetsh, a'i was gidag e, I'ch mofin chi bant yn wraig iddo fe!'
Rhedodd Gwen i lawr o'r llofft gan wenu'n llawen iawn, a rhoddi ei llaw ar enau Ann ac erfyn arni dewi.
Beth pe bai rhywun yn ei chlywed? A pheth arall, yr oedd hi erbyn hyn yn berffaith siwr nad oedd y gweinidog yn meddwl dim am dani. Gwelsai ef ddoe ym Mhenffynnon, ond atynt hwy i Maesyryn yr aethai, gan ei gadael hi'n ddigon diesgus a diseremoni.
Yna aethpwyd i ddyfalu paham. Disgrifiodd Gwen ddyfodiad Fred, a dywedodd gyda llaw, fod rhywbeth yn atyniadol iawn yn Fred. Yr oedd mor heini ac mor llawen, ac yr oedd yr un fath bob amser. Ac ocheneidiodd Gwen.
Yna tywalltodd Ann ei balm.
"Mai e'n dwli arnoch chi merch i! A ma dinion mewn cariad yn graff iawn. Ma ofan arno'ch bod chi'n cari Fred. Mai e'n gwbod bo chi a finne'n ffrindie, a mai e'n serchog iawn i fi'n ddiweddar. Ma hinni'n eitha arwidd! Wn i ddim pam mai e beido gweid pethe'n blaen, ond fe neith riw ddiwarnod, gewch weld. All e'm peido."
Cyn i Gwen gael amser i ateb, clywyd curo wrth y drws, a chyn i neb gael amser i'w hatal, cerddodd gipsy i mewn a basged o amryw drugareddau ar ei braich. Penliniodd yn d'diseremoni ar y llawr, gan ddangos ei nwyddau, a siarad yn ddiaros,-
"Buy some of this beautiful lace this evening, Miss, do.Help a poor woman. a yard. Look at this lovely piece for sixpence It's a bargain.
You'll never regret it, Miss. Let