"Na beth rhifedd iddi weid two or maybe three' wrthoch chi," meddai Ann. "Mi wn i pwi iw'r trididd, a falle nad o's neb arall yn gwbod. Ond weda i ddim.
Ond shwt odd i'n gweid na phriodech chi ddim in o nw? Wes rhiwin cifoethog iawn yn mind i ddod i'ch hol chi?"
"Wedd i'n croesweid i hinan fan na,"" ebe Gwen, "wa'th shwt gallwn i fod yn hapis a pheido."
Yna chwarddod y ddwy yn iachus.
XV.
Ai ni wnest Ti, o ddydd i ddydd,
Ymwadu a phleserau'n llwyr?
—KERI.
FEL y rhan fwyaf o aelodau ei eglwys, rhoddai'r Parch. Owen Elis hefyd lawer o le yn ei feddwl i'r Gymanfa agoshaol, a chymysg fel efe ei hun oedd ei ddisgwyliadau am dani a'i baratoadau ar ei chyfer. Gofynasid iddo fod yn un o ddau i bregethu yn yr oedfa ddau o'r gloch ar brif ddydd yr Wyl. Nid peth arferol oedd gofyn hynny i weinidog yr eglwys lle y cynhelid y Gymanfa. Yr oedd ef hefyd mor ieuanc ac yn newydd yn y lle,—yn newydd yn wir yn y weinidogaeth. Ond pan ddygodd y ffeithiau hyn i sylw'r awdurdodau, gan erfyn arnynt yn wylaidd geisio rhywun addasach nag ef, ni fynnent wrando arno. Yr oedd disgwyliad yn y Cyfundeb am ei glywed, a dywedwyd wrtho y byddai y cyfle hwn i wneud ei hun yn adnabyddus i Annibynwyr y tair sir yn sicr o droi'n fantais iddo eto'n ol llaw.
Felly, yr un noson ag y defnyddiai Ann a Gwen ei enw mor rhydd ynglyn a'u bwriadau dyfodol, cerddai ef yn ol a blaen yn ei fyfyrgell, weithiau a rhyw lawenydd anrhaethadwy yn pelydru o'i lygaid, bryd allan a'i ben tua'r llawr, a'r rhychau yn ddwfn ar ei dalcen. Arhosodd, cydiodd yn y Beibl ac agorodd ef ar antur fel y gwnai yn fynych. Ar y geiriau hynny yn y drydedd bennod ar ddeg ar hugain