Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Eseciel y disgynnodd ei lygaid, "Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddiwrthyf fi."

Hon oedd un o'i hoff benodau. Darllenai hi'n fynych ar ddechreu'r gwasanaeth yn ei gapel. Ie, y fath gyfrifoldeb oedd ynglŷn â'r gwaith, ond y fath orfoledd hefyd! Y fath gyfle braf a gai ar ddydd y Gymanfa! Tystio dros ei Waredwr gerbron tyrfa o weinidogion a channoedd o bobl! Dywedyd neges fawr ei fywyd, nid wrth ddyrnaid o bobl mewn capel, ond yng ngwydd y tyrfaoedd yn yr awyr agored, a chludid ei eiriau ar adenydd yr awel ymhell dros y wlad. O ryfedd gariad! O'r fraint gael dywedyd am dano!

Yna, a phelydr ei orfoledd o hyd yn ei lygaid, aeth ei feddyliau heb yn wybod iddo i gyfeiriad arall. Rhaid fod son am dano fel pregethwr wedi mynd eisoes drwy'r wlad. Rhaid fod hyd yn oed ei frodyr yn y weinidogaeth yn meddwl cryn dipyn o hono. Nid safle ddibwys oedd i fachgen tlawd fod wedi ei chyrraedd. Yn hollol heb ganiatad na chroesaw ymlusgodd i mewn i'w galon feddwl bychan arall, sef, y gwnai les, feallai, i'r gweinidogion . . . ., ond mygodd hwnnw cyn iddo fynd ymhellach, ac aeth i ddychmygu ei hun, ar y llwyfan a'r gynulleidfa fawr o'i gylch. Wyneb Gwen oedd o'i flaen o hyd. Gwelai ei llygaid gleision mawr yn edrych arno mewn edmygedd tra'i meddwl yn cyd-deithio a'i feddwl yntau. Dychmygai weld ei gwefusau yn symud fel y gwnaent o hyd yn ol yr hyn a deimlai ac a feddyliai. Yr oedd cymaint o fynegiant yng ngwefusau 'Gwen ag oedd yn ei llygaid.

Her mobile lips, her tender eyes!'

Ah! y fath wynfyd fyddai bywyd yng nghwmni' Gwen!

Eisteddodd y dyn ieuanc ar ei gadair gydag ochenaid. Atgofiodd ei hun yn chwerw o'i gloffni. Sut gallai byth ofyn i eneth hoew, nwyfus, fel Gwen, gylymu ei hun wrth un ymlusgai drwy fywyd fel y gwnai ef? Ac oni chloffwyd ef i bwrpas neilltuol? Onid un o alwadau cryfaf Duw ato oedd hyn, i'w ddenu oddiwrth bleserau anwadal y byd i dangnefedd diderfyn? Eithr mor siomedig oedd ei gynnydd ysbrydol! Profiad y Salmydd oedd ei brofiad yntau,— Glynodd fy enaid yn y llwch." Pa bryd y medrai ymysgwyd ac ehedeg uwchlaw pethau bychain amser a lle? Efe,