distewi ac yn gwrando. Yr oedd gwair John Sâr ar lawr ac yn galw am ei drin, ond ni feddyliai neb am ei gyffwrdd ar ddydd yr wyl. Safai cerrig beddau'r fynwent gerllaw fel ar flaenau eu traed. i wrando, ac ymsymudai dail y coed a'r borfa, ac ymsiriolent, fel pe bai'r dirgelion oll eisoes yn eglur iddynt hwy, ac fel pe yn dda ganddynt weld dynol-ryw yn ymhyfrydu yn yr un pethau gogoneddus. Daeth cenllif o gerddoriaeth o'r cae. Clywyd dyblu a threblu'r geiriau,
"Gad in' deimlo Awel o Galfaria Fryn."
"O dir," ebe Gwen.. "Wi'n teimlo felswn i wrth borth y nefoedd."
Chwarddodd Ann, a dywedodd fel y gwnai'n fynych, "Na lodes rifedd i chi, Gwen." Ac ychwanegodd, "Weles i monoch chi'n drichid yn neisach ariod. Gwisgwch hat wen stil mwy.
Na'ch taro chi ma'i! A fidd dim ise i chi dinni'ch golwg o ar y stage, trw'r amser! Wn i'm bid ym mhwi ran o'r dyrfa fawr y ca i weld Jo.
A disgynnodd Gwen o'r uchelion i drafod yr un pwnc, i feddwl am yr awr ginio, y myrdd dieithriaid, y dillad newydd, a'r pleserau posibl. Yn anad dim, edrychai hi ymlaen at y mwynhad o glywed Owen Elis yn annerch y dorf fawr, a hi yn gwybod yn ei chalon ei bod hi'n nes ato ac yn ei ddeall yn well nac hyd yn oed y llu gweinidogion oedd o'i gwmpas.
Dywed rhai fod Cymanfa rymus y dyddiau gynt yng Nghymru wedi dirywio erbyn hyn nes bod yn ddim namyn cystadleuaeth neu arddangosfa bregethu.
Gall fod gwir yn hynny weithiau. Meidrol yw pawb, ac y mae rhagor rhwng pregethwr a phregethwr mewn ysbrydolrwydd meddwl a llwyredd ymgysegriad. Daeth y demtasiwn i gwrdd ag Owen Elis. Brwydrodd a hi, a daeth allan yn goncwerwr. Ar brynhawn dydd y Gymanfa, pan godai ei lef dros ei Waredwr ger bron y gynulleidfa fawr, ciliodd y byd yn ufudd o'r golwg.
"Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymaith, oedd testun ei bregeth. Tywalltodd allan gyfrinion enaid gyda rhyw hyawdledd a wefreiddiai'r dorf fawr. Ar y