Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cychwyn, taflai'r gweinidogion edrychiadau mynych at ei gilydd gan wenu'n awgrymiadol; gwrandawai'r dyrfa ar y llethr yn astud iawn, daeth y rhai oedd ger y clawdd o un i un yn nes i ymyl y dorf, gan sibrwd wrth ei gilydd, "Fachgen, ma'r boi cloff na'n galler i gweid i!" Safai Owen Elis o'u blaen yn eofn ac yn wylaidd ar yr un pryd, heb wybod dim yn eu plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi Ei groeshoelio. Cyn diwedd y bregeth ryfedd honno, ciliasai swn yr Amennau, ac yr oedd y distawrwydd bron yn llethol. Edrychai llawer yn frawychus fel pe baent, er wedi byw blynyddau hir, heb hyd yr awr honno ddeall gwir ystyr bywyd. Pan eisteddodd y pregethwr, ni symudodd y gynulleidfa. Parhaodd y myfyrdod syn a'r tawelwch nes i eiriau'r emyn a'i nodau hiraethus roddi i bawb ollyngdod teimlad.

Ymwasgarodd y dorf. Gorfu i lu o ferched fel Ann a Gwen gefnu ar y fan a brysio'n ddiramant tuag adref i odro. Aethai llu ereill, merched eto—ymhell cyn diwedd yr oedfa i'r festri i baratoi tê. Tuag yno y dylifai'r dorf yn awr, rhai mewn brys anweddaidd, ac ereill yn hamddenol, gan fesur a phwyso'r pregethau. Ar ol yn y cae, gwelwyd nifer fechan yn symud yn gyffrous o gwmpas rhywun neu rywbeth, ac un arall yn rhedeg tuag atynt a gwydraid o ddwfr yn ei llaw. Yr oedd yno rywun wedi llewygu. Hen wraig fechan oedd, ac amser wedi rhychu pob modfedd o'i hwyneb llwyd. Os mai mewn llewyg y buasai, yr oedd yn awr wedi dadebru. Yr oedd ei llygaid yn llydan agored, ac yn rhythu ar bawb fel pe heb weld neb, a threiglai dagrau fel dwy afon loew dros ei dwyrudd hen. Siaradai yn ddi-daw. Daliai'r ferch y gwydraid dwr yn ei hymyl heb feiddio torri ar lif ei geiriau. Bernid fod y pregethu dwys ynghyd a gwres yr hin wedi bod yn ormod iddi i'w dal. Beth ond hynny ellid gasglu oddiwrth ei geiriau gwyllt?

"Odi, odi, ma didd y cyfri'n shwr o ddod. Ble bidda i wedin? Faint o fwinhad ges i wedi'r cwbwl? Ond nid arna i wedd y bai i gyd, nage, nid arno i wedd y bai mwia, ma Duw'n gwbod. Ond mi roia i bethe'n reit yto. Alla i ddim marw'n dawel heb hinni. Shwt wmeda i ddidd y farn a mhechode i heb i madde? Ma rhaid i fi find at y prigeth- wr i roi pethe'n reit. Le ma'r prigethwr? Owen Elis wi'n feddwl, y bachgen cloff na. Ma raid i fi gal sharad ag e.