Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceisiodd godi, ac yr oedd ei threm yn wyllt ac anaturiol. Tra'r oedd rhai o'r gwragedd caredig yn ceisio ei pherswadio i yfed diferyn o ddwr ac aros yno yn y cysgod am ychydig yn hytrach na mynd i ganol y dyrfa, torrodd yr hen wraig i wylo'n hidl a distaw. Gadawyd iddi, gan wybod mai hynny a wnai fwyaf o les iddi.

Tra'r oeddid mewn penbleth felly yn ei chylch, daeth dyn bychan byrr ar hanner rhedeg tuag atynt. Yr oedd creithiau duon ar ei wyneb, ac adwaenodd rhai ef fel cydymaith beili'r degwm. Rhuthrodd drwy'r cwmni a'i anadl yn ei wddf, ac olion ei bryd tê brysiog ar ei wefusau, a dywedodd, gan blygu at yr hen wraig,—

"Man i'n wit ti, ta? Dera, dera, Rachal fach. Be si matar eddi to? Dera, sich dy lyced. Awn adra'r minid ma. Wetas taw fel in bysa pethach."

Yna trodd at y cwmni i esbonio pethau mewn hanner sibrwd, "Wetas ddicon wrthi'r bora ma, lwch chi, taw aros adra fydda ora iddi. Diw i'm yn iech es ticin, a ma rhwi feddyla bech arni. Dos dim iws dishgwl ar beth ma'i'n wêd, na tolach gormodd arni. Bod yn ffirm si ora, medde'r doctor. Own i'n meddwl byddai'n well weti dod ffordd in i fiw, ond gwathyci ma'i, ia, gwathyci. 'Dera nawr, Rachal fach. Gei ddishglad fach o dê nawr yn y festri co, a mi gerddwn adra gan bwyll.

Bob yn dipyn, caed gan Rachel ufuddhau, ac aeth heb weld y pregethwr ym mraich ei gwr bychan bywiog. I rai, bu ei hanes o fwy diddordeb na'r un o'r pregethau. Daethpwyd mewn byrr amser i wybod cymaint ellid wybod am dani; ei bod wedi bod yn forwyn yn Y Mwyndir cyn i Tomos Bŵen fynd yno, ei bod wedi mynd bant' i fyw ar ol hynny, a phriodi dyn bychan llawer iau na hi o rywle yn Sir For gannwg; fod ei hiechyd wedi cilio, a'i bod wedi dod yn ol i'r wlad i fyw, tuag ardal Glynygroes; fod ei gwr yn rynu anifeiliaid ar hyd y ffeiriau, ac yn prynu hefyd i hen feili'r Degwm.

Medrai rhai pobl ddychmygu llawer mwy am dani. Pan fyddai" meddylie" ar rywun, yr oedd rhyw achos am hynny fynychaf. Pwy wyddai beth a fuasai gorffennol yr hen wraig? Rhyw le rhyfedd sydd yn y gweithfeydd. Pregeth Owen Elis yn ddiau a ddeffroisai ei chydwybod heddyw, dyna