Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

paham y galwasai am dano ef. Rhaid fod rhyw bechod yn pwyso ar ei chydwybod. Cofid am dani yn Y Mwyndir gan rai o'r ardal. Ni fuasai unrhyw son am dani' yno. Cofiodd rhywun fod ganddi chwaer rywle ger Abergwynli yn byw bywyd digon isel. Sut priododd hithau hen ddyn bach oedd gymaint yn iau na hi, a rhyw hen waith rhyfedd oedd ganddo. Trueni iddo ddod yno i'r cae cyn i'r hen wraig gael gweld y gweinidog. Gallesid bod wedi cael clywed ei chyffes, a chael manylion a fuasai'n bwnc ymddiddan diddorol ynghanol undonedd bywyd gwlad am amser hir.

XVII.

"Llwyther y bibell weithion,—yn ei mwg
Dychmyger myrdd swynion;
Yn lludw aed trallodion
Llawer awr ar allor hon."

WEDI diwedd yr oedfa olaf, yr oedd yn rhy hwyr ac yn rhy bell i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr ddychwelyd i'w cartrefi. Cyn ymwasgaru, ymgasglodd nifer o honynt yn nhŷ'r capel i gael ymgom wedi cyffro'r dydd. Nid oedd gormod o le yn ystafell oreu'r tŷ bychan. Gorfu i bob ystafell arall ynddo roi benthyg cadair neu ddwy. Wedi ymdrech egniol, llwyddodd Jones y Berth i agor y ffenestr hyd ei hanner. Daeth Leisa a'r lamp i mewn a thynnodd y llenni. Buan aeth bron yn amhosibl i wr weld wyneb ei gyfaill gan fwg. Ychydig o siarad a glywid ar y cyntaf, ond tynnai pob un yn egniol, ac yr oedd rhywbeth yn esmwythhaol yn y swn, fel swn ceffylau yn dyfal dyfal gnoi eu gwair wedi dydd o ludded ar y maes.

Daethai Owen Elis i mewn hefyd. Wedi eistedd yn anesmwyth am dipyn, edrychodd yn hanner ofnus o'i gylch, dywedodd ei fod yn flinedig iawn, a'i fod yn gobeithio yr esgusodid ef am eu gadael; ysgydwodd law a dau neu dri o'r rhai hynaf, dymunodd "Nos Da" i bawb, ac aeth allan gan gau'r drws yn ysgafn ar ei ol.