Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dydw i'n credu fawr ym mhobol yr un idea yma," ebe Morus y Bont. Rwy'n tueddu i ffafrio dy grefydd di, Dewi, ac R.L.S. Dynion rownd, ys dywedai'r hen bobol, sy eisieu; rhai i wasgar sirioldeb a daioni wrth fynd drwy'r byd. Beth sy eiseu'n rhagor?

"Rw i'n ieuanc iawn mi wn, i siarad ar bwnc fel hwn," ebe Sam John, " ond mae gen i un syniad bach, ac rwy am i ddweyd e. Roedd llwyddiant yr hen bregethwyr i'w briodoli i'r pellter mewn un ystyr oedd rhyngddyn' nw a'r bobl. Roedden' nw'n gallu llefaru gydag awdurdod am mai ganddynt hwy oedd y dirgelion. Mae'r mystery na yn help i addoliad a chrefydd. Mae hwnna ar goll yng Nghymru heddyw. Mae pawb yn hyf ar y pethau sancteiddiolaf, a ninnau'r arweinwyr yn un a'r bobl, ac felly heb fawr o ddylanwad. Mae'n rhaid i ni godi'n hunain,—a gwneud hynny drwy ryw fodd heblaw addysg. Does dim modd am dani ond yn ol dull proffwydi'r Hen Destament,—drwy gymundeb agos ac uniongyrchol a Duw. Mystics ein dyddiau ni yw'r tebycaf i wneud hyn.

"A ydyw Sam John hefyd ymysg y proffwydi?" ebe—Jones. y Berth, yn ddistaw.

Machgen i, rwyt ti'n llygad dy le," ebe Dafis Bethel, gan godi o'i gadair, ac wynebu ei gynulleidfa, a chadw'i bibell yn ei law i bwysleisio'i ymadroddion. "Mae'r mystics yma'n bobol ryfedd iawn. Mae llawer o honyn nw'n rhai anodd i fyw da nw ac i gwmnia a nw. Dynion yr un idea! Ond mae'r rhai hyn wedi specialiso yn y wybodaeth uchaf, coeliwch chi fi. Penboethni os mynnwch, ond penboethni gogoneddus! Gyda nhw mae allwedd bywyd. Hwy sy'n cael y mwyniant puraf a'r mwyaf parhaol. Mae ambell beth yn Owen Elis nad wy'n hoffi, ond yn ei gwmni ddoe, ac wrth ei glywed yn pregethu heddyw, rown i'n teimlo f'enaid yn sefyll ar flaenau 'i draed. Mi dd'weda i chi beth arall, fechgyn, dyma bregethwyr dyfodol Cymru. Mae tymor y deffro drwy son am ddydd y farn wedi mynd: mae tymor y dysgu drwy erthyglau diwinyddol gorffenedig wedi mynd hefyd. Hwyrach y deil pregeth fach y teimlad eto am "dipyn, a'i storiau difyr a phrudd, ac hefyd y bregeth up-to-date wyddonol, smart, ond dyw'r rhai hyn fawr o les ysbrydol i neb. Profiad ysbrydol sydd yn eisieu mewn preg-