Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edaidd y goruchwyliwr anffyddlawn hwnnw i lawr o'r oesau pell, Pa faint sydd arnat ti o ddyled? . . . . Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna ddeg a deugain." Ceir dilynwyr y dyn hwnnw ym mhob cylch o gymdeithas heddyw. Nid aur yw popeth melyn, ac nid caredigrwydd yw pob gweithred a gymer yr enw.

Offeryn defnyddiol iawn yw'r ffug-garedigrwydd hwn. A oes arnat eisieu ffafr gan neb? Paid meddwl gofyn iddo'n uniongyrchol ac wyneb-agored. Yn hytrach chwilia am le i wneud iddo rywbeth na chyst lawer i ti, ac na fydd ond odid yn nemawr lles iddo yntau. Daw yn ddiau o dipyn i beth i ddeall beth garet gael ar ei ran, a phwy felly fedr dy wrthod a chadw ei anrhydedd? A wnest gam a rhywun erioed? Os nad oes berigl iddo ddial ei gam, na ofala. Eithr os yw Nemesis ar dy warthaf, beth a wnei?

Dos at y gwr y gwnest gam ag ef; dangos iddo ochr felfedeiddiaf dy natur; gosod fân actau digost o garedigrwydd yn llyffethair am ei arddyrnau, fel pan ddel yr awr y bydd yn anodd iddo godi ei law yn dy erbyn. Dyna ddoethineb y byd hwn.

Ni fu'r Gymanfa heb ei heffaith ar fywyd y wlad. Gwir na thorrodd allan ar unwaith ddiwygiadau cyffrous mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu cyfarfodydd gweddi yr wythnosau dilynol lawer yn lliosocach na'r rhai cynt. Ni chanfyddid rhyw wahaniaeth amlwg iawn yn yr iaith a'r ymddygiad ar y meysydd cynhaeaf, yn y ffair a'r farchnad, yng nghwmniau llawen yr efail a'r gweithdy. Bu mwy nag un Bugail yn cwynfan gyda'r Proffwyd, "Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth."

Eithr er yn hir o'r golwg, nid aethai'r had da i gyd ar goll. Hwyrach mai yn y dirgel y gwnaed llawer o'r addunedau; nid oeddynt am hynny yn llai difrifol na'r ymdrechion i'w cadw yn llai egniol. Weithiau, ar aelwydydd, fin nos, ceid aml ymddiddan dwys rhwng gwr a gwraig neu rhwng dau gymydog, ar rai o bynciau'r pregethau,—ymddiddanion o'u clywed a fuasai'n agoriad llygaid ac yn adgyfnerthiad ysbryd i lawer gweinidog blin Weithiau hefyd, tra'n unig ar y maes yn gyrru'r wedd, cai'r aradrwr ei hun yn distaw ganu darn o emyn ganesid gyda hwyl ddydd y 'Gymanfa, a chyda'r emyn deuai'n ol radd o'r un dylanwadau. Os syrthiodd peth o'r had ar y palmant caled, peth, ysywaeth, ar y