Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

creigle, a peth ymysg drain, fe syrthiodd peth ar dir da, ac yn araf a distaw a ddug ei ffrwyth.

Yn hanes Tomos ac Ester Bŵen, Y Mwyndir, yn anad neb, bu dydd y Gymanfa yn drobwynt tra phwysig. Yr hwyr hwnnw, braidd na fu'r Parch. Morgan Puw a'r gweinidog arall yn rhy araf wrth fodd eu lletywr gyda'u swper a'u hymgom. Digon anodd oedd cymeryd rhan siriol mewn ymddiddan, a phethau trymion yn gwasgu ar y meddwl. Wedi i'r ddau wr dieithr o'r diwedd weld yn dda noswylio, cafodd y mab a'r ferch hefyd orchymyn i fynd ar unwaith i'w gwelyau, gan ei bod yn hwyr, ac y byddai raid codi gyda'r wawr drachefn drannoeth. Yna cymerodd Ester y pocer, gwnaeth i'r tân cwlwm glân fflamio ychydig yn siriolach, tynnodd y ddau eu cadeiriau yn nes ato, a dechreuwyd ymddiddan dwys a barhaodd nes i'r wawr dorri. Pa ddiwygiadau bynnag a ddygodd y Gymanfa i fywyd y wlad, dysgodd i Tomos ac Ester yr angenrheidrwydd o ffurfio polisi newydd hollol am y dyfodol, ac er y gallai'r polisi hwnnw droi'n dreulfawr ac o bosibl yn ddifudd, yr oedd yn werth mentro arno os mewn unrhyw fodd y gellid osgoi amgylchiadau ereill anhawddach eu cyfarfod

Un prynhawn Gwener, yr ail wedi'r Gymanfa, synnwyd Marged Elen o gael ei gorchymyn gan ei mam i drefnu ei gwaith fel y gallai fynd cyn nos ar neges fechan i dŷ'r gweinidog. Buasai'r Mwyndir yn ffodus iawn yn eu cywion ieir y flwyddyn honno, a theimlai Ester Bŵen y gallent yn hawdd hepgor un i'r gweinidog. Rhoddai ereill o bobl yr eglwys roddion bychain iddo'n awr ac eilwaith, a pha eisieu iddynt hwythau fod ar ol. Esboniodd y fam yn ofalus i'r ferch ei bod hi ers tro wedi gweld y priodoldeb o wneud pethau felly, ond fod ei thad mor glòs. Beth bynnag, wedi iddi hi siarad ag ef yn ddwys ar y pwnc, daethai i weld pethau o'i safbwynt hi. Felly, yr oedd Mari'r forwyn eisoes yn plufio'r ffowlyn bach, a chai Marged Elen fynd yn union wedi godro.

Amlwg oedd fod ei thad wedi cael troedigaeth lwyr ar y pwnc, oherwydd gwelodd Marged Elen na cheisiai ei mam guddio dim rhagddo y tro hwn. Pan aeth hi i lawr o'r llofft wedi gwisgo yr oedd y fasged fach a'i chynhwysiad yno ar